British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 14 Awst 2011, 12:54 GMT 13:54 UK
Gavin Henson wedi cael llawdriniaeth ar ei arddwn

Gavin Henson yn gadael y cae ar l cael ei anafu yn ystod y gm rhwng Cymru a Lloegr
Bu'n rhaid i Gavin Henson adael y cae yn ystod hanner cyntaf y gm

Mae Gavin Henson wedi cael llawdriniaeth ar ôl datgamalu ei arddwn yn ystod y gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Fydd Henson ddim yn chwarae am 6 i 8 wythnos.

Bu'n rhaid i'r chwaraewr 29 oed adael y cae ar ôl 32 munud cyn buddugoliaeth Cymru o 19-9.

Gyda llai na phedair wythnos hyd nes gêm agoriadol Cwpan y Byd yn Seland Newydd mae hyn yn ergyd arall i'r canolwr.

Fe fydd Cymru yn wynebu De Affrica ar Fedi 11.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y bydd Henson yn parhau gyda Chymru er mwyn chwarae yn y gemau olaf.

Carfan Cymru

Roedd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi amau i ddechrau bod Henson wedi torri ei fraich ond dangosopdd sgan iddo ddatgymalu ei arddwn.

Cafodd driniaeth ddydd Sul.

"Er na fydd o yn y garfarn wreiddiol i deithio i Seland Newydd, fe allai fod ar gael yn ddiweddarach yn y bencampwriaeth," meddai rheolwr meddygol Undeb Rygbi Cymru, Prav Mathema.

"Wrth ystyried hynny, fe fydd Gavin yn aros o dan ofal staff meddygol Cymru er mwyn sicrhau ei fod ar gael cynted â phosib petai angen ei alw allan i Seland Newydd."

Bydd Cymru yn wynebu Samoa ar Fedi 18; Namibia ar Fedi 26 a Fiji ar Hydref 2.

Mae disgwyl i Gatland gyhoeddi ei garfan o 30 fydd yn teithio i Seland Newydd ar Awst 22.

Petai Henson ddim yn cael ei enwi, dim ond cymryd lle chwaraewr fydd wedi ei anafu y gall wneud.

Eisoes mae Cymru wedi colli Morgan Stoddart ar ôl iddo dorri ei goes yn y gêm yn erbyn Lloger yn Twickenham ar Awst 6 ac mae 'na gryn amheuaeth am Matthew Rees, capten Cymru, sydd angen llawdriniaeth ar ei wddf.



HEFYD
Cymru 19-9 Lloegr
13 Awst 11 |  Newyddion
Amheuaeth am gapten Cymru
12 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific