Gallai gweithredu diwydiannol gael ei gynnal fis Medi a mis Hydref
|
Fe fydd cannoedd o weithwyr technoleg gwybodaeth yn swyddfa'r DVLA yn Abertawe ac yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd yn cynnal pleidlais i fynd ar streic. Dywedodd undeb y PCS y gallai streic gael ei chynnal ym mis Medi a mis Hydref. Mae'r contractwyr Fujitsu wedi dweud eu bod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad. "Mae'r PCS wedi penderfynu peidio gofyn i'w haelodau i bleidleisio ar ein cynnig cyflog ni, sydd yn ein barn ni yn ddigon teg," meddai llefarydd. "Ond yn hytrach maen nhw wedi gofyn iddyn nhw bleidleisio ynglyn â gweithredu diwydiannol." Cosb ariannol Ychwanegodd bod y cwmni yn barod i gyflwyno adolygiad cyflog ymhlith aelodau ac mae'n cynnal trafodaethau pellach yr wythnos hon. Mae pleidlais streic yn cael ei chynnal ymhlith tua 750 o weithwyr dros y DU. Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA nad oedden nhw am wneud sylw gan fod eu cytundeb wedi ei roi i IBM a bod "Fujitsu yn cynnig rhai o'r gwasanaethau hynny ar ran IBM." Dywedodd llefarydd ar ran Undeb PCS y gallai Fujitsu wynebu cosb ariannol am fethu cytundebau petai'r gweithwyr yn mynd ar streic. Ychwanegodd nad yw Fujitsu wedi cyrraedd nac wedi rhagori ar dargedau perfformiad y cytundeb eleni a bod rhai uwch reolwyr wedi cael bonws o £14,000 a bod hynny'n fwy na chyflog blwyddyn rhai aelodau staff. "Er gwaetha hyn mae'r cwmni yn gwrthod codiad cyflog a fyddai'n gweld cyflogau yn codi rhwng 1.5% a 2.5%."
|