British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Awst 2011, 11:03 GMT 12:03 UK
Dathliadau 150 mlynedd ers i reilffordd gyrraedd Trefyclo

Gorsaf Trefyclo ym mis Mehefin 1962
TrÍn stÍm yng ngorsaf Trefyclo ym mis Mehefin 1962

Mae dathliadau arbennig ym Mhowys wrth nodi 150 mlynedd ers i reilffordd gyrraedd Trefyclo.

Cafodd 22 milltir o gledrau Rheilffordd Calon Cymru rhwng y dre a Craven Arms yn Sir Amwythig eu codi yn 1861.

I nodi'r 150 mlynedd mae'r Cynghorydd Shauna Davies yn dadorchuddio plac yn yr orsaf ddydd Mercher.

Dechreuodd y gwaith ar y 120 milltir o gledrau yn 1839 ac erbyn 1865 roedd yn cysylltu gogledd Lloegr â phorthladdoedd de Cymru.

Fe gafodd effaith ar y dre.

Prysur

Adeiladwyd yr orsaf yn 1865, bedair blynedd ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd.

Bu'n orsaf brysur hyd nes i deithio ar y ffordd ddod yn fwy poblogaidd.

Pont Ddwr Knucklas
Cafodd Pont Cnwclas ei chodi ger Trefyclo yn 1863

Yn y 1940au cafodd 25 o bobl eu cyflogi yn yr orsaf.

Roedd 'na chwe thrên teithwyr yn teithio drwy'r orsaf i'r ddau gyfeiriad bob dydd yn ogystal â thren cludiant bob dydd.

Erbyn hyn, mae nifer y trenau yn bedwar y dydd i bob cyfeiriad.

Yn ystod y 1940au roedd Terry Powell, 92 oed, yn gweithio yn y swyddfa docynnau.

"Yr adeg honno roedd bron popeth yn cael ei gludo gan y trên," meddai.

Rheolwr

"Roedd 'na 25 o bobl yn gweithio yn yr orsaf ac roedd yn lle prysur a phwysig."

Aeth Mr Powell i weithio ar y rheilffordd pan adawodd yr ysgol yn 1935 a dechrau yn y Gelli Gandryll.

Bu'n gweithio yn Nhrefyclo am 10 mlynedd cyn dod yn Rheolwr Gorsaf Bucknell yn 1957.

Ymhlith y nwyddau gafodd eu cludo drwy Drefyclo yr oedd y post a da byw.

"Roedd gorsaf Trefyclo yn brysur iawn a phopeth bron yn cael eu cludo gan drenau.

"Wrth i'r ffordd ddod yn fwy poblogaidd ac fe ddechreuodd yr orsaf fod yn llai prysur efallai oherwydd ei bod mewn ardal mor wledig."

Beeching

Yn y 1960au roedd y rheilffordd yn rhan o Adolygiad Beeching ond wedi ymgyrch lwyddiannus fe achubwyd y rheilffordd.

Dywedodd David Edwards o Fforwm Rheilffordd Calon Cymru fod angen mwy o deithwyr.

Mae 'na fwriad i gynyddu'r nifer o drenau ond dywedodd Mr Edwards y byddai'n costio £800,000 i ddarparu un gwasanaeth ychwanegol.

Cafodd prosiect £5 miliwn i adnewyddu'r orsaf ei orffen y llynedd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific