British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 13 Awst 2011, 15:34 GMT 16:34 UK
Cymru 19-9 Lloegr

Nick Easter yn taclo George North
George North yn cael ei daclo gan Nick Easter wrth i Gymru wynebu Lloegr am yr eildro mewn wythnos

Cymru 19
Cais: Hook Trosi: Hook Cic gosb: Priestland 2, Hook 2
Lloegr 9
Cic gosb Flood 3


Cymru gafodd y dechrau delfrydol i'r gêm yn erbyn Lloger yn Stadiwm y Mileniwm, er nad oedden nhw'n eu coch arferol.

O fewn y funud gyntaf cafodd Gymru gic gosb ac fe lwyddodd Rhys Priestland i sgorio'r tri phwynt.

James Hook
James Hook gafodd unig gais y gm

Ond o fewn tri munud roedd Toby Flood wedi dod â'r sgor yn gyfartal.

Gyda Lloegr yn mwynhau dros 70% o'r meddiant roedd 'na gyfle ar ôl cyfle i'r Saeson.

Fe wnaeth Lloegr bopeth ond croesi'r llinell gais a dro ar ôl tro roedd Cymru dan y lach.

Ar yr hanner roedd y sgôr yn chwe phwynt yr un.

Doedd yr ail hanner ddim yn ddechrau cystal i Gymru wrth i Loegr fanteisio a chael cic gosb.

Roedd 'na newid i Gymru wrth i James Hook gymryd awennau am y cicio.

O fewn y munudau cyntaf cafodd Jamie Roberts gerdyn melyn ac roedd Cymru lawr i 14 dyn wedi iddo gael ei anfon i'r gell gosb.

Ond Cymru oedd yn gryfach yn yr ail hanner.

Daeth unig gais y gêm ar ôl 57 munud i James Hook ac yn absenoldeb Mike Phillips welodd y garden felen, Hook seliodd y fuddugoliaeth gydag anferth o gic yn y munudau ola'.

Dodd hi ddim yn berfformiad clodwiw gyda gwendid y lein a'r sgrym yn bryder.

Ond wythnosau'n unig cyn dechrau Cwpan Rygbi'r Byd yn Seland Newydd roedd buddugoliaeth yn erbyn yr hen elyn yn allweddol i hyder carfan Cymru.

Lloegr enillodd y gêm gyfatebol yn Twickenham yr wythnos diwethaf o 23 -19 .

Tîm Cymru:

James Hook; George North; Jamie Roberts; Gavin Henson; Shane Williams; Rhys Priestland; Mike Phillips; Paul James; Lloyd Burns; Craig Mitchell; Luke Charteris; Alun Wyn Jones; Dan Lydiate; Sam Warburton (capten); Toby Faletau.

Eilyddion: Huw Bennett; Ryan Bevington; Josh Turnbull; Justin Tipuric; Tavis Knoyle; Scott Williams; Aled Brew.

Tîm Lloegr:

Ben Foden; Matt Banahan; Mike Tindall (Capten); Shontayne Hape; Mark Cueto; Toby Flood; Richard Wigglesworth; Alex Corbisiero; Steve Thompson; Dan Cole; Louis Deacon; Courtney Lawes; Tom Wood; Hendre Fourie; Nick Easter.

Eilyddion: Lee Mears; Matt Stevens; Tom Palmer; James Haskell; Danny Care; Charlie Hodgson; Delon Armitage.



HEFYD
Amheuaeth am gapten Cymru
12 Awst 11 |  Newyddion
Rees i golli gm Lloegr
02 Awst 11 |  Newyddion
Powell a Thomas yn dychwelyd
29 Gorff 11 |  Newyddion
Phillips yn l yn y garfan
27 Meh 11 |  Newyddion
Cymru'n colli i'r Barbariaid
04 Meh 11 |  Newyddion
100fed cap i Stephen Jones
04 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific