Mae'r cyngor sir wedi eu beirniadu am fethiannau
|
Mae Llywodraeth Cymru yn galw am weithredu brys i wella gwasanaethau addysg yn Sir Benfro. Daw'r alwad ar ôl cyhoeddiad dau adroddiad beirniadol - un oedd yn nodi methiannau difrifol yn y trefniadau i warchod plant rhag cael eu cam-drin. Roedd yr adroddiad arall yn feirniadol iawn o ansawdd gwasanaethau addysg y sir. Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wrth Gyngor Sir Benfro bod ganddyn nhw ddau fis i lunio cynllun gweithredu. Mae'r awdurdod wedi penodi uwch reolwr addysg newydd yn ddiweddar sydd, yn ôl yr ymchwilwyr, "wedi canolbwyntio ar agweddau oedd yn tangyflawni..." Dywed y cyngor eu bod eisoes wedi dechrau ar y broses o wella gwasanaethau. Beirniadaeth Cafodd adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, eu cyhoeddi ddydd Iau. Fe wnaeth y cyngor sir gadarnhau mai achos y prifathro David Thorley, a gafwyd yn euog o naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blant yn 2009, oedd sbardun yr ymchwiliad. Roedd yr adroddiad yn feirniadol iawn am y modd y cafodd honiadau o gam-drin plant eu trin. Roedd adroddiad Estyn yn rhoi pwysau ar y rhai oedd yn gyfrifol am safonau o fewn ysgolion y sir gan ddweud nad oedd systemau yn bodoli i ddiogelu plant a phobl ifanc ac nad oedden nhw'n addas. Roedd 'na feirniadaeth o swyddogion y cyngor am ansawdd y wybodaeth oedd yn cael ei rannu gyda chynghorwyr. Mewn datganiad dywedodd Mr Andrews bod y methiannau a nodwyd yn adroddiad Estyn ar ansawdd addysg o fewn y sir, a'r adroddiad arall yn gwbl annerbyniol. Cynllun "Mae'n gwbl glir ac amlwg bod angen i'r cyngor sir weithredu ar unwaith i ateb y methiannau sy'n cael eu nodi. "Fe fyddaf yn ystyried y dystiolaeth o ran safon ysgolion a'r materion eraill ac yn disgwyl gweld cynllun gan y cyngor ar hyn o fewn dau fis." Mae gan y cyngor tan Fedi 9 i nodi'r hyn sydd eisoes wedi ei wneud oedd yn yr adroddiadau ac i gyflwyno'r cynllun. Fe fydd rhai cael cydweithrediad llawn y cynghorwyr a'r prif swyddogion. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Benfro, John Davies, bod sawl pwynt wedi ei nodi yn adroddiad Estyn sydd eisoes yn cael eu hwynebu a gweithdrefnau gweinyddol eisoes yn eu lle.
|