British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 13 Awst 2011, 09:45 GMT 10:45 UK
Clychau priodas yn canu ym Maerdy

Sharon Rowe
Disgwylir i dros 100 o bobl i fynychu'r gwasanaeth priodas

Bydd priodferch yn gwireddu ei breuddwyd i fod y bedwaredd genhedlaeth o'i theulu i briodi mewn eglwys yn Y Rhondda.

Daw priodas Stephanie Rowe ar ôl cyfnod o bryder am ddyfodol yr eglwys.

Ond yn ddiweddar cafodd Eglwys Yr Holl Saint ym Maerdy ei harbed rhag cau.

Roedd Ms Rowe wedi ofni y byddai'n rhaid iddi briodi mewn eglwys arall.

Pleidleisiodd y Cyngor Plwyf Eglwysig (CPE), sy'n cynnwys aelodau eglwysi Maerdy, Glynrhedynog a Thylorstown, gau Eglwys yr Holl Saint yn gynharach eleni.

Ond penderfynodd cangen Maerdy ymatal rhag bwrw pleidlais ynglŷn â'r mater.

Pedwaredd genhedlaeth

Gwrthododd selogion adael Eglwys Yr Holl Saint ym mhentref Maerdy ar ôl yr oedfa olaf a gafodd ei chynnal yno ar Orffennaf 3.

Wedi eu hymgyrch penderfynon nhw dderbyn cynnig i brynu'r adeilad am £1,000 yn hytrach na'i gwerth marchnad o £25,000.

Gwnaed y cynnig gan Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.

Dywedodd Ms Rowe ei bod hi ar ben ei digon y byddai ei phriodas yn cael ei chynnal yn yr un eglwys lle priododd ei mam, mam-gu a hen fam-gu.

"Mae rhaid i mi binsio fy hun am fy mod i mor hapus i fod y bedwaredd genhedlaeth o'm teulu i briodi yn yr eglwys," meddai Ms Rowe.

"Dyw neb yn deall pa mor bwysig yw hyn i mi."

Fe fydd hi'n priodi Gavin Derrick yno am 12.30pm ddydd Sadwrn.



HEFYD
Aelodau yn gwrthod symud o eglwys
04 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific