British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Awst 2011, 15:30 GMT 16:30 UK
Cynllun £1m i wella'r briffordd

Tagfeydd ar yr M4
Mae 38 miliwn o bobl yn defnyddio'r draffordd yn flynyddol

Bydd cynllun gwerth £1m i wella'r briffordd ar Gyffordd 32 yr M4 yng Nghyfnewidfa Coryton, Caerdydd yn dechrau ar 5 Medi 2011.

Disgwylir i'r gwaith gymryd tua 12 wythnos, ac iddo ddod i ben erbyn y Nadolig 2011.

Bydd cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys adeiladu lôn wedi'i neilltuo newydd ar gyfer traffig sy'n gadael yr M4 tua'r dwyrain ac yn teithio tua'r gogledd ar gefnffordd yr A470.

Ei nod yw lleihau ciwiau, gwella'r llif traffig, a gwella diogelwch ar y ffordd ymadael tua'r dwyrain.

Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwaith ar arwyddion, marciau ffordd a goleuadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Hoffwn ddiolch i ddefnyddwyr ffyrdd am eu hamynedd, a gofynnwn i yrwyr ystyried y gwaith hwn wrth gynllunio eu teithiau wrth i Lywodraeth Cymru barhau â'r gwaith i wella seilwaith trafnidiaeth Cymru".



HEFYD
M4: Beirniadu penderfyniad
16 Gorff 09 |  Newyddion
M4: Dim ffordd liniaru
15 Gorff 09 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific