British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Awst 2011, 11:05 GMT 12:05 UK
Achos Kirsty Jones: Angen gwarant i gael DNA tyst

Kirsty Jones
Roedd Kirsty Jones yn teithio o amgylch y byd pan gafodd ei lladd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Kirsty Jones yn mynd i orfod cael gwarant i gynnal prawf DNA ar ddarlithydd yng Ngwlad Thai.

Cafodd y ferch 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu ym Mhowys ei llofruddio mewn hostel yn Chiang Mai yng Ngwlad Thai ym mis Awst 2000.

Mae'r darlithydd ym Mhrifysgol Chiang Mai wedi gwrthod cais Heddlu Dyfed Powys i roi sampl DNA yn wirfoddol ar ôl i Adran Ymchwiliadau Arbennig Gwlad Thai gysylltu gyda fo.

Mae o wedi gwadu unrhyw gysylltiad gyda Kirsty Jones.

Pwysleisiodd yr heddlu nad oedd y ffaith bod y darlithydd wedi gwrthod rhoi sampl yn cael ei ystyried mewn unrhyw ffordd fel cyfaddefiad ei fod yn euog.

Fe fydd yn rhaid i'r heddlu fynd drwy'r broses gyfreithiol i gael sampl DNA.

Neb wedi cael eu cyhuddo

Deallir bod yr Adran Ymchwiliadau Arbennig yn poeni y byddan nhw'n cael eu herlyn gan fod y darlithydd yn aelod parchus o'r gymuned.

Ond mae'r ffaith ei fod wedi gwrthod yn rhwystr ychwanegol i ymchwiliad llofruddiaeth Kirsty.

Roedd hi newydd gychwyn ar daith dwy flynedd o gwmpas y byd.

Er bod sawl person wedi cael eu harestio, does neb wedi cael eu cyhuddo o'i llofruddio.

Mae'r ymchwiliad araf wedi bod yn rhwystredigaeth i'w theulu.

Cafodd yr heddlu yn ninas Chiang Mai eu beirniadu'n hallt am y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda'r achos.

Oherwydd pryderon teulu Ms Jones fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys ddod yn rhan o'r achos yn 2001.

Fe lwyddodd swyddogion fforensig i sicrhau DNA'r llofrudd.

Mae mam Ms Jones, Sue, wedi brwydro am gyfiawnder ac wedi cyfarfod swyddogion o'r Swyddfa Dramor ac o Wlad Thai dros y blynyddoedd.



HEFYD
Kirsty Jones: 'Modd dal ei llofrudd'
09 Awst 11 |  Newyddion
Gwlad Thai: Ymchwilio i fideo
24 Gorff 11 |  Newyddion
'Ddim yn rhoi'r gorau i'r frwydr'
10 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: 'Angen dysgu gwersi'
03 Ion 06 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad newydd
10 Awst 05 |  Newyddion
Kirsty: Ofn AS am ymchwiliad
13 Awst 07 |  Newyddion
Achos teithwraig: Oedi ymchwiliad
16 Awst 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific