British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Awst 2011, 11:17 GMT 12:17 UK
Amheuaeth am gapten Cymru

Matthew Rees
Mae Rees wedi ennill 47 cap ers iddo chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf yn 2005

Mae amheuaeth a fydd capten tîm rygbi Cymru, Matthew Rees, ar gael i chwarae ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd y mis nesaf gan ei fod angen llawdriniaeth ar ei wddf.

Roedd prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi gobeithio y byddai modd gohirio'r llawdriniaeth tan ar ôl y gystadleuaeth.

Ond credir bod y broblem yn ymwneud â disg, ac mae pryderon bod angen llawdriniaeth arno ar unwaith.

"Mae'n edrych fel y bydd angen llawdriniaeth arno yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach," meddai Gatland.

"Mae wedi cael chwistrelliad, ond y mae'n dal i fod mewn llawer o boen.

"Bydd rhaid i ni eistedd i lawr a thrafod gydag ef."

Mae Rees wedi ennill 47 cap ers iddo chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf yn erbyn yr Unol Daleithiau yn 2005.

Lloegr

Yn y cyfamser, mae'r tîm yn paratoi i wynebu Lloegr ddydd Sadwrn wedi i Gymru golli 23-19 yn eu herbyn ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae pedwar newid yn y tîm, gyda Gavin Henson yn ennill cap rhif 33 er nad yw e'n chwarae i unrhyw glwb ar hyn o bryd.

Bydd Henson yn cymryd lle chwaraewr y Scarlets, Jonathan Davies, ac yn ymuno â Jamie Roberts yng nghanol y cae.

Ond ni fydd y prop Adam Jones yn chwarae er ei fod yn holliach yn dilyn anaf i'w fys troed.

Dywedodd y rheolwr fod Jones wedi cael llawer o anafiadau yn ystod y tymhorau diwethaf.

"Mae Adam yn holliach ond mae'n rhaid i ni ystyried ein hopsiynau rhag ofn iddo gael anaf yn ystod Cwpan y Byd."

Bydd James Hook yn cymryd lle chwaraewr arall y Scarlets, Morgan Stoddart yn safle'r cefnwr.

Bydd dau o chwaraewyr y Dreigiau, y bachwr Lloyd Burns a'r ail-reng, Luke Charteris yn cael cyfle arall i greu argraff ar ôl iddynt ddod oddi ar y fainc ddydd Sadwrn diwethaf.

Partner Charteris yn yr ail reng fydd Alun Wyn Jones.

Disgwylir i Gethin Jenkins a Ryan Jones fod yn holliach erbyn gêm Cymru yn erbyn Yr Ariannin ar Awst 20.

Cymru v Lloegr
Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, Awst 13, 2:30pm.

Tîm Cymru:

James Hook; George North; Jamie Roberts; Gavin Henson; Shane Williams; Rhys Priestland; Mike Phillips; Paul James; Lloyd Burns; Craig Mitchell; Luke Charteris; Alun Wyn Jones; Dan Lydiate; Sam Warburton (capten); Toby Faletau.

Eilyddion:Huw Bennett; Ryan Bevington; Josh Turnbull; Justin Tipuric; Tavis Knoyle; Scott Williams; Aled Brew.

Tîm Lloegr:

Ben Foden; Chris Ashton; Mike Tindall (Capten); Shontayne Hapel; Mark Cueto; Toby Flood; Richard Wigglesworth; Alex Corbisiero; Steve Thompson; Dan Cole; Louis Deacon; Courtney Lawes; Tom Wood; Hendre Fourie; Nick Easter.

Eilyddion: Lee Mears; Matt Stevens; Tom Palmer; James Haskell; Danny Care; Charlie Hodgson; Matt Banahan.



HEFYD
Rees i golli gm Lloegr
02 Awst 11 |  Newyddion
Powell a Thomas yn dychwelyd
29 Gorff 11 |  Newyddion
Phillips yn l yn y garfan
27 Meh 11 |  Newyddion
Cymru'n colli i'r Barbariaid
04 Meh 11 |  Newyddion
100fed cap i Stephen Jones
04 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific