Bydd y dafarn hanesyddol yn ail-agor yn 2012
|
Mae tafarn hanesyddol ym mhentref Penarlâg yn mynd i ail-agor yn 2012. Mae'r Glynne Arms, sydd yng nghanol y pentref yn Sir y Fflint, yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd ar ôl cau yn 2010. Roedd y dafarn unwaith yn eiddo i deulu Gladstone tan y 1970au cyn iddo gael ei reoli gan gyfres o fragdai tan 2010. Yn awr mae Charlie a Caroline Gladstone, sydd hefyd yn rhedeg siop fferm stad Penarlâg, yn datblygu'r dafarn unwaith eto. Mae llyfr gan y Parch TW Pritchard, 'A history of the old parish of Hawarden', yn rhoi ychydig o hanes y dafarn. Mae'n dweud bod y dafarn gael ei hadeiladu'n gynnar yn y 19eg Ganrif ac iddi ddod yn rhan o fywyd y pentref. Yr wythnos yma darganfuwyd trawst sy'n dyddio'r dafarn yn ôl i 1812. Dywedodd Charlie Gladstone: "Dwi'n siwr y bydd trigolion Penarlâg yn croesawu ail-agor y Glynne." Yn ogystal ag ail-agor y dafarn, bydd llyfr y Parch TW Pritchard hefyd yn cael ei ail-brintio yn 2012.
|