British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Awst 2011, 05:50 GMT 06:50 UK
Dyn yn gwrthod llenwi ffurflen y Cyfrifiad yn Saesneg

Alun Jones
Newyddion Ar-lein

Iain Turnbull (Llun gan Iain Maciver)
Iain Turnbull (Llun gan Iain Maciver)

Mae dyn sy'n byw ar un o ynysoedd Yr Alban yn gwrthod llenwi ffurflen y cyfrifiad am nad yw'n medru cael ffurflen Gymraeg.

Dywedodd Iain Turnbull, 63 oed, sydd wedi byw yn Stornoway ar Ynys Lewis ar yr Ynysoedd Heledd Allanol ers saith mlynedd, bod awdurdodau'r cyfrifiad wedi ei "fygwth" gyda dirwy o £1,000.

Ond mae'n mynnu na fyddai'n talu.

"Mae'n fater o egwyddor", meddai wrth Newyddion Arlein BBC Cymru.

"Fe fydda i'n mynd i'r carchar os oes rhaid.

"Mae modd ei llenwi yn Wrdw, Pwnjabeg, a hyd yn oed Tagalog, un o dafodieithoedd y Pilipinas, ond ddim yn un o ieithoedd brodorol Prydain.

"Dwi wedi anfon y ffurflen yn ôl bedair gwaith gan ofyn am ffurflen Gymraeg."

Dywedodd mai'r ateb y mae'n ei gael yw bod 'na saith cwestiwn ar y ffurflen ar gyfer Yr Alban sy'n wahanol i weddill Prydain.

"Dwi'n dweud wrthyn nhw i gyfieithu'r saith cwestiwn hynny i mi felly," meddai.

"Byddai hynny'n costio llawer llai iddyn nhw na fy ngharcharu."

Er nad yw Mr Turnbull yn rhugl yn yr iaith lafar, mae ganddo ddwy ferch a phedair o wyresau sydd i gyd yn rhugl yn Gymraeg.

Dirwy statudol

Amcangyfrifir bod tua 1,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'i gilydd, a 110,000 yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Yr Alban y gallai dirwy statudol o £1,000 gan ei roi i unrhyw un sy'n gwrthod llenwi ffurflen y cyfrifiad.

Sampl o holiadur Cyfrifiad 2011
Mae Iain Turnbull am lenwi'r cyfrifiad yn Gymraeg

"Ac os nad yw'r ddirwy yn cael ei thalu, fe fyddai'r trefniadau arferol yn cael eu dilyn i gasglu'r hyn sy'n ddyledus."

Fe aned Mr Turnbull yn Norfolk, ond symudodd i Gaerdydd yn 1970.

Bu hefyd yn byw yn Abertridwr a Chasnewydd, cyn symud i'r Alban yn 1993, yn gyntaf i Gaeredin.

Enillodd ei fywoliaeth fel bragwr, ond y mae bellach wedi ymddeol.

Cafodd y cyfrifiad ei gynnal ar Fawrth 27 2011.

Ffurflen 2001
Roedd 'na aniddigrwydd am un cwestiwn ar ffurflen 2001

Fe achosodd y cyfrifiad diwethaf yn 2001 ddadlau mawr am nad oedd y ffurflenni yng Nghymru yn cynnwys blwch lle y gallech chi nodi eich bod chi'n Gymro neu'r Gymraes.

Erbyn eleni, roedd y blwch hwnnw yno.

Fe wnaeth pob cartref yng Nghymru a Lloegr dderbyn yr holiadur.

Caiff yr arolwg ei gynnal ar ran y llywodraeth bob 10 mlynedd.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref ddychwelyd y ffurflen neu i lenwi'r holiadur arlein.



HEFYD
Cymraeg clir y Cyfrifiad
11 Maw 11 |  Newyddion
'Y cyhoedd ddylai gael dewis iaith'
07 Awst 11 |  Newyddion
35,000 o swyddi i'r Cyfrifiad
07 Hyd 10 |  Newyddion
Sir i roi prawf ar gyfrifiad 2011
18 Medi 09 |  Newyddion
Blwch i'r Cymry yn y Cyfrifiad
11 Rhag 08 |  Newyddion
Canlyniadau Cyfrifiad 2001
13 Chwef 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific