British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Awst 2011, 06:26 GMT 07:26 UK
Abertawe'n arwyddo'r gl-geidwad Michel Vorm

Michel Vorm
Vorm yw ail gl-geidwad Yr Iseldiroedd

Mae Clwb Pêl-Droed Abertawe wedi arwyddo'r gôl-geidwad Michel Vorm am £1.5 miliwn o FC Utrecht ar gytundeb tair blynedd.

Mae'n gadael y tîm yn Yr Iseldiroedd gyda blwyddyn ar ôl ar ei gytundeb.

Roedd yn y garfan oedd i fod i wynebu Lloegr yn Wembley nos Fercher - gêm gafodd ei gohirio oherwydd y terfysg ar strydoedd Llundain.

Ar ôl i Dorus de Vries adael Abertawe roedd y rheolwr Brendan Rodgers wedi bod yn chwilio am gôl-geidwad.

"Mae'r clwb wedi dangos eu bod nhw wir fy eisiau," meddai Vorm sy'n 27 oed.

Fe wnaeth Vorm chwarae yn erbyn Lerpwl a Celtic yng Nghynghrair Europa y tymor diwethaf.

Fo yw'r chweched chwaraewr i Rodgers ei arwyddo wrth i'r Elyrch baratoi ar gyfer eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair.

'Y gynghrair orau'

Bydd Vorm yn cystadlu am le yn y gôl gyda Jose Moreira, un arall o'r chwaraewyr mae Rodgers wedi ei arwyddo dros yr wythnosau diwethaf.

Doedd gan Vorm ddim dwywaith i ddod i chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr.

"Dwi wedi siarad efo rhai fel Nigel de Jong, Robin van Persie, Rafael van der Vaat a Ruud van Nistelrooy, ac maen nhw i gyd yn dweud yr un peth - mae'r Uwchgynghrair yn lle gwych," meddai Vorm.

"Yr Uwchgyngrair yw'r gynghrair orau yn y byd ac mae'n gyfle arbennig iawn i fod yn rhan ohono."

Dywedodd Rodgers bod o'n falch iawn i allu denu rhywun o statws Vorm i'r Liberty.

"Mae'n cyd-fynd gyda'n ffordd ni o chwarae.

"Mae ganddo brofiad.

"Fo yw'r ail gôl-geidwad i'r Iseldiroedd, ac o gofio bod ganddyn nhw nifer o gôl-geidwad gwych, mae hyn yn wych i ni."



HEFYD
Joe Allen yn aros efo Abertawe
10 Awst 11 |  Newyddion
Cytundeb tair blynedd i Monk
09 Awst 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific