British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Awst 2011, 14:49 GMT 15:49 UK
Asbestos wedi'i ganfod yn Ysbyty Bronglais

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth
Digwyddodd yr achosion yn ysbyty Bronglais rhwng 2004 a 2009

Gallai hyd at 30 staff cynnal a chadw fod wedi cael eu hamlygu i asbestos yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ôl swyddogion iechyd.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi datgan eu bod yn ceisio olrhain cyn weithwyr a'u bod yn cynnig profion sgrinio.

Dywedodd y Bwrdd nad oedd asbestos wedi treiddio i fannau cyhoeddus ac nad oedd cleifion nac ymwelwyr wedi eu peryglu.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymholiad ynglŷn â sawl achos o fynd yn groes i reoliadau asbestos yn yr ysbyty.

Mae'n ofid gennym y gallai ein staff fod wedi cael eu hamlygu i asbestos.
Bwrdd iechyd Hywel Dds

Mwyn sy'n bodoli'n naturiol sydd wedi ei wneud o ffibrau bychain iawn yw asbestos. Mae'r mwyn yn cael ei gloddio a'i falu, a'r ffurf ffibrog hon sydd wedi ei ddefnyddio'n hanesyddol mewn amrediad o ddeunyddiau adeiladu.

Os aflonyddir asbestos gallant ryddhau nifer fawr o ffibrau siâp nodwyddau a all gael eu hanadlu i mewn i'r ysgyfaint. Mae'r ffibrau hyn yn aros yn yr ysgyfaint ac yn medru arwain at nifer o afiechydon, rhai yn angheuol.

'Pryderon'

Mae anhwylderau a achosir gan asbestos yn arwain at 3000 o farwolaethau'r flwyddyn.

Digwyddodd yr achosion yn ysbyty Bronglais rhwng 2004 a 2009 yn ystod y cyfnod cyn sefydlu Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd: "Gallaf sicrhau ein bod wedi rhoi systemau a gweithdrefnau mewn lle ledled y Bwrdd Iechyd er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.

"Hoffwn nodi nad oedd yr asbestos mewn unrhyw fannau ar gyfer cleifion na'r cyhoedd

"Byddwn yn sicrhau bod yr holl staff cynnal a chadw yn rhan o ymchwiliad Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac rydym yn parhau i gynnig cymorth a chyngor i bawb sydd ag unrhyw bryderon.

"Mae'n ofid gennym y gallai ein staff fod wedi cael eu hamlygu i asbestos.

"Fodd bynnag, hoffwn gadarnhau bod y Bwrdd iechyd newydd wedi cyflwyno mesurau i sicrhau y caiff asbestos ei reoli'n effeithiol ym mhob un o'n lleoliadau.

"Mae'r ffaith fod y mater hwn wedi'i nodi mor fuan ar ôl sefydlu'r Bwrdd Iechyd newydd yn brawf o hyn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific