British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Awst 2011, 13:51 GMT 14:51 UK
Casglwyr cocos yn cael eu harestio

Cocos
Dim ond casglwyr cocos trwyddedig sydd yn cael eu caniatáu i weithredu yn yr ardal

Mae tri dyn wedi eu cyhuddo o hel cocos yn anghyfreithlon ar aber Dyfrdwy.

Defnyddiodd swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gyfarpar golwg y nos i wylio'r dynion yn casglu cocos ym Maesglas am 2am fore Mercher.

Cafodd y tri dyn eu harestio gan y swyddogion a Heddlu Gogledd Cymru ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i lannau'r Dyfrdwy.

Atafaelodd y swyddogion drelar, cyfarpar cocos a dau sach mawr yn llawn cocos gwerth £200.

Llys

Yn ogystal mae Heddlu Gogledd Cymru wedi atafaelu cerbyd a ddefnyddiwyd i gyflawni'r troseddau honedig.

Dim ond casglwyr cocos trwyddedig sydd yn cael eu caniatáu i weithredu yn yr ardal.

Credir i'r dynion 20 oed, 25 oed, a 28 oed hanu o ardal Warrington.

Cafodd y tri eu cyfweld yn y fan a'r lle ac fe fyddan nhw'n ymddangos mewn llys ar ddyddiad heb e'i bennu.

Dychwelodd swyddogion yr asiantaeth y cocos i'r aber.

Dywedodd Alan Winstone o Asiantaeth yr Amgylchedd fod hel cocos yn anghyfreithlon yn bygwth bywoliaeth casglwyr cocos trwyddedig.

"Yn ogystal gall fod yn beryglus i bobl heb unrhyw brofiad hel cocos yn ystod y nos.

"Rydyn ni'n cadw llygad craff ar welyau cocos a mannau pysgota yng Ngogledd Cymru ac fe fyddwn ni'n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy'n pysgota'n anghyfreithlon."



HEFYD
'Peryg y parasit estron'
27 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific