British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 10 Awst 2011, 11:39 GMT 12:39 UK
Galw mawr am lefydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth
Dywed y coleg fod eu profiad penodol yn wahanol iawn i'r profiad cyffredinol yng Nghymru

Er nad yw canlyniadau Lefel A allan am dros wythnos arall mae Prifysgol Aberystwyth eisoes wedi dweud na fyddan nhw'n cymryd rhan yn y system glirio eleni.

Yn ôl y coleg ger y lli mae eleni wedi bod yn flwyddyn eithriadol am geisiadau.

Gwelodd y brifysgol gynnydd o 16.6% yn y ceisiadau ac mae llawer mwy nag erioed o ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Aberystwyth yn ddewis cadarn.

Golyga hyn na fydd modd i fyfyrwyr sydd heb le cadarn ystyried Aberystwyth fel lleoliad ar gyfer astudio'r flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn newyddion da iawn i'r Brifysgol ac i economi'r rhanbarth
Yr Athro Aled Jones

Dywed y coleg fod eu profiad penodol yn wahanol iawn i'r profiad cyffredinol yng Nghymru lle mae'r cynnydd yn 1.4% yn unig ac yn y Deyrnas Unedig, lle gwelir mai 0.8% yn unig yw'r twf.

Ar y brig

Dywedodd yr Athro Aled Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor: "Cafwyd cynnydd sylweddol ar flynyddoedd a fu yn nifer y rhai a wnaeth gais i ddod yma, a'r nifer sy'n derbyn y brifysgol yn ddewis cadarn ac yn mynd ymlaen i dderbyn ein cynigion i gyd.

"Mae hyn yn newyddion da iawn i'r Brifysgol ac i economi'r rhanbarth.

"Tystiolaeth o'n poblogrwydd yw'r ffaith mai ni, yn 2010, oedd yr unig Brifysgol yng Nghymru nad aeth i'r clirio."

Yn The Complete University Guide 2012, a gyhoeddwyd ar-lein ac ym mhapur newydd y Telegraph ym mis Ebrill 2011, daeth Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru am fodlonrwydd myfyrwyr ac yn gydradd drydydd yn y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â sefydliadau megis Caergrawnt, St Andrews a Loughborough.

Mae'r Times Higher Education Student Experience Survey a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2011 hefyd yn rhoi Prifysgol Aberystwyth yn uchel yn y tabl cynghrair ychydig islaw Rhydychen a Chaergrawnt am gyrsiau wedi eu strwythuro'n dda (cydradd bedwerydd yn y Deyrnas Unedig).



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific