Roedd Cymdeithas Eryri wedi gwrthwynebu'r cynlluniau blaenorol
|
Mae'r cynlluniau ar gyfer ail agor hen safle'r weinyddiaeth amddiffyn yng Ngwynedd i fod yn ganolfan ymchwil yn mynd ymlaen. Derbyniodd Llywodraeth Cymru dystysgrif defnydd cyfreithiol sy'n caniatáu i'r safle yn Llanbedr gael ei ddefnyddio ar gyfer profi a datblygu cerbydau UAV, cerbydau erial heb berson ynddyn nhw. Fe wnaeth Stad Maes Awyr Llanbedr roi croeso gofalus i'r cyhoeddiad. Maen nhw'n gobeithio prynu a datblygu'r safle. Fe ddywedodd Cymdeithas Eryri eu bod yn falch bod y mater wedi ei ddatrys. Pan wnaeth y safle gau yn 2004 roedd 130 o bobl yn cael eu cyflogi. Roedd Stad Maes Awyr Llanbedr eisiau defnyddio'r tir ar gyfer hedfan preifat a rhentu adeiladau ar y safle ar gyfer defnydd busnes. Trafodaethau Cafodd eu cais am dystysgrif defnydd cyfreithiol ei wrthod yn 2009 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y corff oedd yn caniatáu cynllunio ar gyfer yr ardal. Ond ym mis Rhagfyr 2010 fe wnaeth Llywodraeth Cymru wneud cais gan mai gweinidogion Cymru oedd rhydd-ddalwyr y safle ers 2006 ar ôl cymryd y cyfrifoldeb gan Awdurdod Datblygu Cymru.
Cafodd y maes awyr ei adeiladu yn 1938 a'i ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd
|
Ddydd Mawrth fe wnaeth y stad ddweud eu bod wedi gwneud cais am drafodaethau pellach gyda'r llywodraeth. "Rydym yn hapus iawn bod y dystysgrif wedi ei roi ond mae angen darllen a deall y cyngor cyfreithiol gan yr Awdurdod er mwyn cael gwybod be yn union sydd wedi ei ganiatáu ac i drafod gyda'r ymgynghorwyr cynllunio," meddai David Young o Stad Maes Awyr Llanbedr. "Rydym yn siomedig na chafodd y cais ei ganiatáu gyda'r un geiriad a bod newidiadau i'r geiriad yn codi cwestiynau am yr hyn gaiff ei wneud ar y maes. "Rydym yn chwilio am gwblhau'r pryniant ac yn galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth y Cynulliad. "Mae 'na oedi wedi bod gyda'r cynlluniau ac mae 'na lawer iawn wedi newid ers hynny." Cynlluniau Mae Cymdeithas Eryri hefyd wedi croesawu'r newyddion er eu bod nhw wedi gwrthwynebu cynlluniau i agor y maes awyr fel un masnachol. Roedden nhw am warchod y tirwedd sydd o fewn y parc. "Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at swyddi o safon a chyflogau da yn yr ardal," meddai Dr David Lewis, Cadeirydd Cymdeithas Eryri. "Fe fyddwn ni'n pwyso ar y llywodraeth i gael gwybod yn union be ydi eu cynlluniau ar gyfer y safle." Dywedodd llefarydd ar Llywodraeth y Cynulliad y byddan nhw'n adolygu eu hopsiynau i sicrhau'r elw economaidd mwya i'r ardal a'r economi lleol.
|