Cafodd yr amddiffynnwr Garry Monk gapteiniaeth Abertawe yn 2006
|
Mae capten Abertawe, Garry Monk, wedi arwyddo cytundeb newydd tair blynedd gyda'r clwb Uwchgynghrair. Mae'r amddiffynnwr 32 oed wedi chwarae dros 200 o weithiau ers ymuno â'r Elyrch yn 2004 ar ôl cael ei ryddhau gan Barnsley. Fe arwyddodd Monk gytundeb newydd yn 2009 o dan y cyn-reolwr Paulo Sousa, fyddai wedi dod i ben ddiwedd y tymor hwn. Ond mae cyn-chwaraewr Southampton a Torquay nawr wedi ymrwymo i aros yn Abertawe tan ddiwedd tymor 2013/14. Mae Monk wedi arwyddo cytundeb newydd ddyddiau cyn i'r Elyrch chwarae eu gêm gynta' yn yr Uwchgynghrair, yn erbyn Manchester City ar Awst 15.
 |
Byddai'n foment anhygoel i mi arwain yr hogiau allan yn Manchester City
|
"Mae'n beth mawr i mi arwyddo cytundeb fydd yn mynd â fi at ddiwedd fy 10fed blwyddyn," meddai Monk. "Mae'n rhywbeth dwi'n falch ohono, mae fy nheulu i'n falch a dwi wedi gweithio'n galed amdano. "Mae'n deimlad gwych gwybod y gallaf gynrychioli fy nghlwb am dair blynedd arall o leia'. "Dwi wedi mwynhau pob eiliad. O'r diwrnod cynta' y cerddais i mewn yma o dan Kenny (Jackett, cyn reolwr), dwi wedi gweld datblygiad mawr yn y chwaraewyr a'r clwb. "I fod yn rhan o hynny, ac fel capten am ran helaeth ohono, mae'n fraint anferthol." 'Moment anhygoel' Os bydd Monk wedi gwella o anaf i'w droed erbyn dechrau ymgyrch Abertawe yn yr Uwchgynghrair yn Stadiwm Etihad, bydd ymhlith llond llaw o ddynion fydd wedi chwarae i'r clwb ymhob un o'r pedwar adran. "Gobeithio y bydda' i'n dod 'nôl i ffitrwydd llawn cyn gynted â phosib. Byddai'n foment anhygoel i mi arwain yr hogiau allan yn Manchester City," ychwanegodd Monk. "Ry'n ni wedi siarad ynglŷn â throi lan a sylweddoli beth sy'n mynd 'mlaen wedi rhyw bump neu chwe gêm. Da ni eisiau bod yn barod o'r cychwyn cynta'. "Ry'n ni'n chwarae yn erbyn chwaraewyr gwych a thîm gwych, ond mae gennym ni garfan dda yma a ry'n ni eisiau dangos i'r gwrthwynebwyr beth allwn ni ei wneud a gweld sut maen nhw'n ymdopi."
|