Terry Jones, sy'n noddwr i'r theatr, fydd yn ailagor yr adeilad yn swyddogol
|
Fe fydd 'na ddigwyddiad arbennig i nodi ail agor Theatr Colwyn yn swyddogol. Terry Jones, un o sêr Monty Python a gŵr lleol, fydd yn arwain y noson ym mis Hydref ar ôl i'r theatr ailagor ym mis Medi. Cyn dangos The Holy Grail gan Monty Python, fe fydd y comedïwr Phil Jupitus yn cyfweld Jones. Cafodd yr adeilad ei adnewyddu ar ôl i'r theatr dderbyn grant o £750,000. Ymhlith y gwaith sydd wedi ei wneud y mae swyddfa docynnau newydd ac ystafell gymunedol newydd. Mae arian wedi cael ei wario hefyd ar y bar, swyddfeydd a mynedfa i bobl anabl ar bob llawr. Roedd disgwyl i'r theatr ailagor yn y gwanwyn ond bu'n rhaid gohirio ar ôl problemau strwythurol. Comedi "Fe fydd rhaglen newydd y theatr yn cychwyn ganol mis Medi," meddai llefarydd. "Fe fydd Terry Jones, sy'n noddwr i'r theatr, yn agor y theatr yn swyddogol ar Hydref 15. "Prynhawn Monty Python arbennig fydd gennym ni mewn cydweithrediad â Gŵyl Gomedi Hosbis Dewi Sant." Ar Fedi 14 y bydd y cynhyrchiad cyntaf yn cychwyn, Godspell. Honnir mai yn yr adeilad y mae'r sinema weithredol hynaf yn y DU.
|