British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Awst 2011, 06:42 GMT 07:42 UK
Trafferthion y llusernau Chineaidd ar yr arfordir

Llusernau Tsieineaidd
Maer llusernau papur gyda fflam oddi fewn ar gallu i ddrifftio yn yr awyr

Mae nifer o fadau achub yr RNLI o amgylch arfordir Cymru wedi cael eu galw ar gam oherwydd llusernau Chineaidd.

Nos Iau, Awst 4, gofynnodd Gwyliwr y Glannau Caergybi i fad achub Moelfre fynd allan ar ôl gweld beth oedd yn edrych fel fflerau yn cael eu gollwng ger Traeth Bychan.

Treuliodd y criw ddwy awr ar y dŵr wrth iddyn nhw geisio cadarnhau a oedd rhywun mewn perygl wrth iddyn nhw weld sawl llusern yn cael eu tanio yn yr ardal.

Nos Sadwrn, Awst 6, cafodd badau achub Cei Newydd ac Aberteifi hefyd eu galw allan ar ôl adroddiadau tebyg gan y cyhoedd.

Dywedodd Rod Pace, rheolwr gweithredol gorsaf Moelfre: "Ar yr adeg yma o'r flwyddyn, mae pobl yn hoff o fynd i'r arfordir i fwynhau eu hunain.

"Mae hynny'n aml yn cynnwys partïon mewn meysydd carafannau ac mae o wedi dod yn gyffredin iawn i bobl ollwng llusernau Chineaidd i'r awyr.

"Ond dydyn nhw ddim yn sylweddoli bod hyn yn achosi trafferthion i'r gwasanaethau argyfwng."

Galwadau di-sail

Cytunodd Roger Couch, rheolwr gweithredol Cei Newydd, eu bod hwythau hefyd yn wynebu'r un trafferthion gyda'r llusernau lliwgar.

"Bydd yr RNLI wastad yn ymateb i alwadau am gymorth ac mae'n well gan ein gwirfoddolwyr lansio lle nad oes angen, yn lle peidio â lansio o gwbwl.

"Serch hynny, mae galwadau di-sail yn golygu bod ein gwirfoddolwyr, sy'n cynnig eu hamser i achub bywydau ar y môr, yn cael eu galw oddi wrth eu teuluoedd a'u gwaith heb fod angen.

"Mae hefyd yn golygu bod adnoddau'r elusen yn cael eu defnyddio pan ddaw gwir alwad am gymorth, ac felly gall rhoi bywydau pobl mewn perygl."

Mae'r RNLI yn gofyn i unrhyw un sydd am ollwng y llusernau ger y môr i gysylltu gyda gwylwyr y glannau yn lleol o flaen llaw.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific