British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 8 Awst 2011, 11:05 GMT 12:05 UK
Parc coffa i ferch a laddwyd gan glwyd

Karolina Golabek
Bu farw Karolina Golabek ym mis Gorffennaf 2010

Fe fydd parc yn cael ei agor yr wythnos hon er cof am ferch bum mlwydd oed a laddwyd gan glwyd awtomatig.

Mae Parc Karolina ym Mhen-y-bont-ar-Ogwr wedi ei enwi er cof am Karolina Golabek, fu farw ym mis Gorffennaf 2010.

Cafodd ei lladd ychydig ddyddiau wedi marwolaeth merch saith oed, Semelia Campbell, mewn amgylchiadau tebyg ym Manceinion.

Mae'r cynllun £30,000 i adeiladu'r parc yn cynnwys siglenni rhaff, sglefriadau, trogylch a si-so, yn ogystal â maes ar gyfer pobl i gerdded eu cŵn, biniau sbwriel lliwgar a meinciau.

Lle diogel

Bydd y parc ger Ffordd Coity yn cael ei agor yn swyddogol ddydd Gwener am 2.30pm.

Cododd rhaglen BBC Cymru Week in Week Out ymwybyddiaeth am beryglon clwydi awtomatig ym mis Tachwedd 2010.

Yn dilyn y rhaglen galwodd trigolion lleol am greu lle diogel i'w plant chwarae.

Arweiniodd Cyngor Tref Pen-y-bont-ar-Ogwr y cynllun i godi arian i brynu cyfarpar ar gyfer y parc gyda chymorth Cyngor Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cronfa Ymddiriedolaeth Neuadd Tref Pen-y-bont-ar-Ogwr, Y Loteri Genedlaethol a chwmni Ford.

Roedd teulu Karolina newydd symud i Ben-y-bont-ar-Ogwr o Wlad Pwyl pan fu farw.

Dywedodd mam Karolina, Barbara: "Rydyn ni dan deimlad wrth feddwl bod pobl Pen-y-bont-ar-Ogwr yn dal i gofio ein merch fach ni.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd plant yn cael llawer o hwyl yn y parc ac rwy'n sicr y byddan nhw'n ddiogel yno."

Bydd cefnder Semelia Campbell, Tony Walker, yn teithio i Ben-y-bont-ar-Ogwr ar gyfer yr agoriad swyddogol.

Teithiodd Mr Walker, teulu Karolina a chynghorwyr tref Pen-y-bont-ar-Ogwr i Downing Street ym mis Hydref 2010 i gyflwyno deiseb yn galw am wahardd clwydi heb synwyryddion.

Mae eu hymgyrch Gate Safe wedi ei chefnogi gan ddyn sy'n gosod clwydi o'r fath, Richard Jackson.



HEFYD
'Gallai'r clwydi hyn ladd pobl'
23 Tach 10 |  Newyddion
'Angen sicrhau diogelwch giatiau'
02 Medi 10 |  Newyddion
Cwest merch laddwyd gan git
13 Gorff 10 |  Newyddion
Teyrnged teulu i ferch
05 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific