British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 9 Awst 2011, 15:58 GMT 16:58 UK
Gwaith yn gallu dechrau ar fferm wynt

Fferm wynt
Fferm wynt: 'Ofnau am ddinistrio'r tirlun'

Mae datblygwyr wedi cael caniatâd i fwrw 'mlaen â chynlluniau dadleuol i godi 10 o dyrbinau gwynt yn Sir Ddinbych.

Fe fydd y tyrbinau 120 metr o uchder yn cael eu gosod ar dir fferm yn ardal Coed Clocaenog.

Cafodd y cynlluniau sêl bendith y cyngor ym mis Hydref 2008.

Roedd y caniatâd wedi ei roi ar yr amod fod cytundeb cyfreithiol i sicrhau rheolaeth cynefin yn cael ei gwblhau.

Mae'r cytundeb hwnnw bellach wedi cael ei gyflwyno, sy'n golygu bod modd dechrau ar y gwaith.

Yn ôl y datblygwyr, cwmni Tegni, bydd fferm wynt Derwydd Bach yn cynhyrchu tua 17% o'r ynni y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ei osod yn nod ar gyfer yr ardal.

Ond roedd rhai pobl leol wedi dadlau y byddai'r datblygiad yn dinistrio'r tirlun ac yn effeithio ar fywyd gwyllt a diwydiant ymwelwyr yr ardal.



HEFYD
Cyngor o blaid fferm wynt
29 Hyd 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific