British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 8 Awst 2011, 07:34 GMT 08:34 UK
PÍl droediwr o flaen llys wedi ei gyhuddo o dreisio

Ched Evans
Ymunodd Ched Evans ‚ Sheffield United am £3m yn 2009

Ymddangosodd y pêl-droediwr rhyngwladol, Ched Evans, o flaen llys ddydd Llun wedi'i gyhuddo o dreisio.

Mae'r ymosodwr 22 oed, o Millhouse Green ger Sheffield, wedi ei gyhuddo o dreisio dynes yng ngwesty'r Premier Inn yn Rhuddlan ar Fai 30 eleni.

Mae pêl-droediwr arall - Clayton McDonald, 22 oed o Crewe - hefyd yn wynebu'r un cyhuddiad.

Doedd yr un o'r ddau ddiffynnydd wedi cyflwyno ple, a dim ond siarad i gadarnhau eu henwau a'u cyfeiriadau wnaethon nhw yn y gwrandawiad, a barodd dri munud.

Mae Mr Evans yn chwarae i Sheffield United ac wedi ennill 22 o gapiau dros Gymru.

Rhyddhawyd datganiad gan dîm cyfreithiol y Blades wedi i Mr Evans gael ei arestio, yn dweud bod y chwaraewr yn gwadu'r cyhuddiad.

Mae ei gyd ddiffynnydd, Mr McDonald, yn chwarae i dîm Port Vale.

Cafodd y ddau ddyn eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar Awst 19.



HEFYD
PÍl droediwr wedi ei gyhuddo o dreisio
31 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific