British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 7 Awst 2011, 08:59 GMT 09:59 UK
Wythnos brysur i adael gwaddol

Aled Roberts
Dywed Aled Roberts bod hi'n bwysig bod yr Eisteddfod yn gadael gwaddol yn y fro

Wedi wythnos brysur, mae Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn edrych ymlaen at sicrhau y bydd gwaddol yn y fro.

Ers dwy flynedd mae Aled Roberts wedi bod yn arwain tîm o wirfoddolwyr i gyd-weithio efo staff a swyddogion yr Eisteddfod i gynnal y Brifwyl.

Ond wrth edrych yn ôl ar yr wythnos dywedodd bod hon wedi bod yn "Eisteddfod hapus iawn".

"Dwi'n credu bod yr holl gydweithio wedi ei adlewyrchu yn y canlyniadau," meddai.

"Mae'r bobl leol yn falch iawn o'r Eisteddfod yma ac mae'r trafod rŵan yn troi at yr hyn fyddwn ni'n ei wneud o hyn ymlaen.

"Mae llawer iawn o bobl sy'n ymwneud â'r pwyllgor gwaith yn awyddus iawn i gyfarfod a gweld be allwn ni wneud i adeiladu ar hyn."

Canolfan Gymraeg

Dywedodd mai'r her rŵan fydd parhau gyda'r hyn mae'r Eisteddfod wedi ei blannu yma.

"Mae'r Eisteddfod wedi codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg yn yr ardal ac fe fydd yn sialens i'r Cymry barhau.

"Os oes 'na fwy o alw am addysg Gymraeg dwi ddim yn gwybod be fydd y cyngor yn ei wneud - ond problem neis ydi hynny."

Soniodd am yr ymgyrch i greu canolfan Gymraeg yn Wrecsam.

"Be sydd angen ei wneud ydi cydweithio a chreu cyfleoedd i blant a phobl ifanc gymdeithasu yn y Gymraeg yn y sir a hynny y tu allan i'r ysgol.

"Rhaid gwneud y pethau bach ac yn bendant canolbwyntio ar roi hwb i'r bobl ifanc.

"Mae 'na ddigon o bethau i oedolion ei wneud yn y sir ond y sialens fwya' ydi ymhlith y plant a'r bobl ifanc.

"Maen nhw wedi gweld yr wythnos hon fod cymaint o Gymry ifanc yn mwynhau cerddoriaeth a chwarae yn y Gymraeg sy'n rhywbeth pwysig iawn i ni."

Dywedodd ei fod yn falch iawn bod 'na 4,500 o bobl Wrecsam wedi bod ar y Maes ar y penwythnos cyntaf gan fanteisio ar y cynllun dau am bris un.

"Dwi wedi cyfarfod sawl teulu lleol sydd wedi dod yn ôl yma ar ôl cael blas a synnu at yr hyn sydd ar gael yma ac at safon y cystadlu," meddai.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific