British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 17:45 GMT 18:45 UK
Gwerthu'r Cae Ras i Brifysgol

Y Cae Ras
Mae'r Dreigiau fod dechrau eu hymgyrch yn erbyn Cambridge United Ddydd Sadwrn Awst 13.

Mae perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gwerthu stadiwm pêl-droed Wrecsam a maes ymarfer y clwb yng Ngresffordd i Brifysgol Glyndŵr.

Mae gan y perchnogion tan 5pm Ddydd Llun i argyhoeddi'r Gynghrair eu bod yn gallu cyflawni rhaglen y tymor nesaf.

Mae'r Dreigiau fod dechrau eu hymgyrch yn erbyn Cambridge United Ddydd Sadwrn Awst 13.

Ond cyn hynny mae rhaid i'r clwb gyflawni pedwar maen prawf gan gynnwys bond £250,000 a chyflwyno rhestr o gredydwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod y gwerthiant wedi llwyddo i gyflawni tri o'r meini prawf.

Dywedodd datganiad gan y clwb nos Wener: "Gallwn gadarnhau bod Wrexham FC (2006) Ltd wedi gwerthu'r Cae Ras a Parc Collier i Brifysgol Glyndŵr.

"Mae'r cytundeb hwn yn allweddol i obeithion Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam i brynu'r clwb."

Ychwanegodd y datganiad fod y clwb yn y broses o gyflawni'r anghenion i chwarae yn Uwch Gynghrair Blue Square Bet y tymor hwn.

"Yn dilyn cyfarfod rhwng swyddogion y clwb a bwrdd y gynghrair ddoe, mae'r gynghrair wedi gofyn i'r clwb egluro ei seffyllfa ariannol bresennol.

"Rydyn yn hapus i gadarnhau bod y clwb wedi cyflawni tri o'r meini prawf a bydd y pedwerydd yn cael ei ddiweddu cyn prynhawn Dydd Llun.

"Mae gweddill rhestr gyflogau'r chwaraewyr yn y broses o gael ei thalu."

Dywedodd Prifysgol Glyndŵr Ddydd Mercher fod y pryniant wedi ei wneud er mwyn diogelu dyfodol stadiwm y Cae Ras fel canolfan chwaraeon i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi bod yn y fantol ers misoedd lawer.

Fe ddaeth yn amlwg wythnos yn ôl nad yw'r chwaraewyr wedi cael eu talu yn ddiweddar, a dywedodd y perchnogion presennol, Geoff Moss ac Ian Roberts, nad oedd ganddyn nhw fwy o arian i'w roi i'r clwb.

Mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal ers tro rhwng y perchnogion ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam er mwyn ceisio cyrraedd cytundeb i drosglwyddo'r clwb i ddwylo'r cefnogwyr.

Deellir fod perchnogaeth y cae a'r maes ymarfer - a'r arian ddaw o'u gwerthu - yn un o'r meini tramgwydd yn y trafodaethau hynny.



HEFYD
Gwerthu'r Cae Ras yn Wrecsam
03 Awst 11 |  Newyddion
Clwb: Chwaraewyr heb gyflogau
28 Gorff 11 |  Newyddion
Wrecsam: Savage yn poeni am y dyfodol
28 Gorff 11 |  Newyddion
Clwb: Trafod dwy garfan newydd
27 Gorff 11 |  Newyddion
Dyfodol clwb Wrecsam 'mewn peryg'
14 Gorff 11 |  Newyddion
Tynnu cais i brynu clwb yn l
11 Mai 11 |  Newyddion
Clwb yn llwyddo i dalu 200,000
28 Ebr 11 |  Newyddion
Wrecsam: Cyfarfod brys
18 Ebr 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific