British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 6 Awst 2011, 10:08 GMT 11:08 UK
Neges heddwch wrth gofio'r bom

Hiroshima wedi'r bom
Lladdwyd dros 250,000 gan y bomiau yn Siapan

Mae digwyddiadau ledled Cymru ddydd Sadwrn i nodi 66 mlynedd ers i'r bom atomig cyntaf gael ei ollwng ar ddinas Hiroshima gan yr Americanwyr.

Dridiau yn ddiweddarach ar Awst 9, 1945, gollyngwyd ail fom ar ddinas Nagasaki.

Lladdwyd dros 250,000 o bobl gan y ffrwydradau a chyfuniad o'r gwres, y tân ddaeth yn eu sgìl a'r ymbelydredd.

Mae mudiad CND Cymru, sy'n gwrthwynebu arfau niwclear, yn defnyddio'r achlysur i alw ar lywodraeth Prydain i ymrwymo na fydd y llywodraeth yn defnyddio, bygwth defnyddio, na datblygu arfau niwclear, a hefyd yn cymryd camau pendant tuag at eu diddymu'n llwyr.

Gardd Heddwch

Dywedodd Jill Gough, Ysgrifennydd Cenedlaethol CND Cymru: "Mewn cyfnod lle mae pobl yn wynebu toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, rydym yn galw ar Lywodraeth Prydain i wneud yr arbediad hawsaf o'r cyfan - arfau niwclear Prydain.

"Mae'n synnwyr cyffredin.

"Ar ben-blwydd 66 mlynedd y dinistr yn Hiroshima, pa well cofeb i'r miloedd ar filoedd gollodd eu bywydau na gweld llywodraeth Prydain yn cael gwared â chynllun Trident?"

Gorymdaith

Mae cyfres o ddigwyddiadau i nodi'r achlysur yng Nghymru.

Ar faes Eisteddfod Wrecsam, mae gwasanaeth arbennig am 11.00am fore Sadwrn ym mhabell Cytûn: Cymdeithas Y Cymod wedi ei arwain gan Y Parchedig Elfed ap Nefydd Roberts ar ran Cymdeithas y Cymod.

Mae rhai yn cyfarfod yng Ngardd Heddwch Llandrindod am hanner dydd.

Parc Y Rhath yw'r man cyfarfod yng Nghaerdydd lle mae Côr Cochion yn canu rhwng 11.30am a 12.30pm a 1.5pm a 2pm.

Dywedodd Arfon Rhys, Ysgrifennydd Cymdeithas y Cymod: "Roedd effaith bom Hiroshima yn erchyll, ac eto roedd yn fom bach o'i gymharu ag arfau niwclear ein dyddiau ni.

"Mae gan Brydain dros 200 o fomiau niwclear, ac mae cryfder pob ohonyn nhw 7.5 gwaith cryfder bom Hiroshima.

"Rydym ni'n credu bod unrhyw ddefnydd o arfau niwclear yn drosedd rhyfel a bod rhaid cael gwared arnyn nhw yn ddi-oed."



HEFYD
Diwrnod y 'ffrwydrad anhygoel'
19 Meh 08 |  Newyddion
Profion ymbelydrol: Galwad AS
10 Maw 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific