Bu ffwrnais go iawn ar y Maes eleni wrth i bobl weld gwaith toddi haearn
Ymysg y creaduriaid i'w gweld yn y babell Wyddoniaeth yr oedd seren fôr oedd yn rhan o arddangosfa creaduriaid gan Adran Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor
Roedd modd cael mynd am dros ar lun gwneud a hynny mewn cwrwgl go iawn
Bu sawl artist yn perfformio ar ddau lwyfan oedd ar y Maes gan gynnwys Dafydd Iwan
Ac eithrio ambell gawod dros ddydd Llun a glaw mân ddydd Iau roedd yr haul yn tywynnu uwchben y Pafiliwn
Tu allan i'r babell wyddoniaeth roedd model o gamlas a Phont ddwr Froncysyllte wedi cael ei godi
Roedd hyd yn oed ceffyl bach yn tynnu llwyth i ddangos pwysigrwydd y gamlas i fyd masnach yr ardal
Mae miloedd o bobl wedi ymweld â'r Eisteddfod dros yr wythnos gyda stondinau amrywiol a digon o weithgareddau ar y Maes
Gyda nifer yn gwario arian yn y stondinau ac yn cael anrhegion o'r Brifwyl
Wrth i'r Eisteddfod ddirwyn i ben fe fydd y golygon yn troi ar Brifwyl 2012 ym Mro Morgannwg
|