British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 16:07 GMT 17:07 UK
Rhys Iorwerth yn cipio'r Gadair

Rhys Iorwerth

Rhys Iorwerth o Gaerdydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro.

Y dasg i'r 13 ymgeisydd oedd llunio dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 250 llinell ar y testun Clawdd Terfyn.

Y beirniaid oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled Williams.

Yn ôl Emyr Lewis, roedd y gystadleuaeth yn un gref a'r "pedwar gorau wedi cyrraedd safon uchel iawn".

Dywedodd am y gwaith gan Penrhynnwr bod y cerddi yn "ddilyniant crefftus a chynnil" sy'n dweud stori garu fodern, ddinesig.

"Mae 'na naw o gerddi, bob un efo teitl eironig, yn adleisio caneuon adnabyddus.

"Mae dilyniant Penrhynnwr yn dod i'r brig pherwyd ei gynildeb emosiynol, a hynny wedi ei gyfleu mewn cynganeddu greddfol a llachar sy'n clecian ac yn goleuo'r awyr fel tân gwyllt."

'Enbyd o anlwcus'

Yn y cyfansoddiadau dywedodd Donald Evans mai dyma "bencerdd y gystadleuaeth".

Mae'r tri yn gwbl unfrydol er eu bod hefyd yn cydymdeimlo a dau arall , Col a Weiran Bigog am fod yn "enbyd o anlwcus eleni" yn ôl Gruffydd Aled Williams.

Rhys Iorwerth
Dyma oedd y tro cyntaf i Rhys gystadlu yn y gystadleuaeth

Ac fe ddywedodd Emyr Lewis ei fod o Donald Evans hefyd yn fodlon Cadeirio Patmos a'i bod yn yn "loes calon gorfod gwrthod cadeirio tri ymgeisydd mor dda".

Er bod Rhys Iorwerth wedi symud i Gaerdydd dros 10 mlynedd yn ôl mae o'n dal i siarad fel hogyn o Gaernarfon.

Mae'n 28 oed yn gweithio i'r gwasanaeth ymchwil yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Cafodd ei ddenu i'r brifddinas yn wreiddiol a'i fryd ar astudio'r gyfraith a gwleidyddiaeth.

Ond dihangodd mewn dim i Adran Gymraeg y Brifysgol lle graddiodd gyda BA yn 2004 ac yna derbyniodd ei MA yn 2005.

Pêl-droed

Oherwydd y Cadeiriau a enillodd yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, roedd yn adnabyddus i'r ddynes lolipop ger yr ysgol fel "y boi sy'n ennill y sêt".

Mae o hefyd wedi ennill Coron a Chadair yr Eisteddfod Ryng-golegol, heb anghofio'r tlws a gipiodd am ddarn o ryddiaith yn Eisteddfod Cricieth yn 10 oed.

Roedd yn cael gwersi cynganeddu yng nghoridorau'r ysgol gan Dafydd Fôn Williams ambell amser cinio.

Mae'n edifar na fanteisiodd yn llawn ar yr addysg honno tan iddo ymuno â dosbarth barddoni Rhys Dafis yng Ngwaelod y Garth, Caerdydd.

Daeth wedyn yn rhan o dîm talwrn Aberhafren a thîm ymryson y Deuheubarth.

Mae ganddo docyn tymor i Stadiwm Dinas Caerdydd i wylio'r pêl-droedwyr ac wrth gwrs tocyn oes o deyrngarwch i Lerpwl.

Mae o hefyd wedi dilyn y tîm cenedlaethol i sawl cwr o'r byd.

Bydd yn mynegi'r rhwystredigaeth sy'n dod yn sgil hynny drwy daro'r drymiau a'r piano a thrwy grwydro ardal Treganna a Glanyrafon, lle mae'n byw.

Dyma'r tro cyntaf i union ffurf y gystadleuaeth gael ei roi.

Rhoddwyd y Gadair gan Gwmni Seren Arian ac fe roddwyd y rhodd ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific