British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 15:36 GMT 16:36 UK
Ymweliad rheolwr Cymru 'r Brifwyl

Gary Speed
Roedd Gary Speed ar y Maes er mwyn cyhoeddi carfan Cymru

Roedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, ar Faes yr Eisteddfod ddydd Gwener.

Dywedodd mai dyma oedd y tro cyntaf iddo ymweld â'r Brifwyl er ei fod wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd pan oedd yn yr ysgol.

Roedd yno yn rhinwedd ei swydd fel rheolwr er mwyn cyhoeddi'r garfan ar gyfer y gêm rhwng Cymru ag Awstralia yng Nghaerdydd nos Fercher.

Dywedodd Ian Gwyn Hughes, Cymdeithas Pêl-droed Cymru, ei bod yn bwysig bod y Gymdeithas yn yr Eisteddfod.

Mae ganddyn nhw stondin ar hyd yr wythnos er mwyn ehangu apêl y Gymdeithas a dangos nad ydyn nhw'n "gymdeithas sy'n aros y tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghaerdydd".

Blas o'r Brifwyl

"Mae eisiau denu cefnogaeth i'r tîm cenedlaethol," Meddai Hughes.

"Rydan ni wedi colli lot o gefnogaeth, yn enwedig ymhlith y bobl ifanc.

Gary Speed
Roedd degau o blant ac oedolion eisiau cyfarfod Gary Speed

"Mae'n gyfle gwych efo rheolwr newydd i adennill y gefnogaeth ac fel timau ar ac oddi ar y car ein bod yn gallu cyrraedd Brasil yn 2014.

"Mae'n wych bod ar y Maes am y tro cynta a bod Gary yn cyhoeddi ei garfan yma."

Dywedodd Gary Speed ei fod yn falch iawn o allu ymweld â'r Maes.

"Mae'n wych yma. Fel arfer dwi yng Nghaerdydd a ddim yn cael lot o gyfle i ddod i'r gogledd, mae'n wych," meddai.

"Dwi'n gweithio'n galed iawn adeg yma'r flwyddyn a heb fod wedi cael amser i allu ymweld o'r blaen.

"Ond mae'n agoriad llygad ac mae 'na lawer iawn o bobl yma.

"Dwi'n gobeithio bod yma eto'r flwyddyn nesaf."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific