British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 11:56 GMT 12:56 UK
Bwyell: Galw am ymchwiliad barnwrol

Daniel Morgan
Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan ym maes parcio tafarn yn 1987

Mae teulu ditectif preifat gafodd ei lofruddio yn 1987 yn dweud fod ei achos yn destun teilwng iawn am ymchwiliad barnwrol.

Cafwyd hyd i Daniel Morgan, 37 oed o Sir Fynwy, mewn maes parcio tafarn yn Sydenham yn ne-ddwyrain Llundain â bwyell yn ei ben.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Comisiynydd Dros Dro Heddlu Llundain ymddiheuro'n swyddogol i deulu Mr Morgan am "ymchwiliad llygredig" i'w farwolaeth.

Cafodd pump o bobl eu harestio yn 2008 cyn i ddau gael eu rhyddhau, gan gynnwys cyn-dditectif oedd wedi ei gyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn gynharach eleni methodd yr achos llys yn erbyn y tri arall - cyn bartner busnes Mr Morgan, Jonathan Rees, a'r brodyr Garry a Glenn Vian.

Amcangyfrifir fod y gost o'r pum ymchwiliad heddlu a'r gwrandawiadau cyfreithiol ers hynny wedi costio oddeutu £30miliwn.

Cyflwyniad

Yn awr mae cyfreithwyr ar ran y teulu wedi gyrru cyflwyniad i'r Ysgrifennydd Cartref, Teresa May, yn amlinellu eu hachos i gael ymchwiliad barnwrol i'r achos.

Roedd brawd Mr Morgan, Alistair, yn annog Mrs May i fod "yn fwy dewr na'i rhagflaenwyr" a chynnal gwrandawiad cyhoeddus i'r mater.

Ychwanegodd fod straeon diweddar am bapur newydd y News Of The World a pherthynas y papur gyda heddweision wedi rhoi arwyddocâd pellach perthnasol i'r mater.

Dywedodd: "Am bron chwarter canrif mae fy nheulu wedi gwneud popeth posib i sicrhau cyfiawnder i Daniel ac i ddatgelu llygredd o fewn yr heddlu.

"Am y rhan fwyaf o'r cyfnod yma, rydym wedi profi rhwystrau ystyfnig a gwaeth ar lefel uchaf Heddlu Llundain.

'Analluog'

"Rydym wedi gweld sustem gwynion analluog yr heddlu, a diffyg gweithredu neu waeth gan sawl llywodraeth.

"Mae bob sefydliad sydd i fod i'n hamddiffyn wedi methu â gwneud hynny."

Roedd y teulu'n cydnabod fod y bobl oedd yn gyfrifol am yr erlyniad mwyaf diweddar yn ymwneud â'r achos wedi gwneud eu gorau i geisio gwneud yn iawn am fethiannau'r gorffennol.

Ond roedd Alistair Morgan yn dweud fod yr heddlu wedi celu pethau am flynyddoedd am fod ei frawd ar fin datgelu llygredd.

Ychwanegodd: "Roedd hi'n amlwg fod fy mrawd yn fin codi'r llen oedd yn gorchuddio'r cysylltiadau rhwng yr heddlu a throseddwyr."

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron nad oedd bellach yn credu fod digon o dystiolaeth i gynnig cyfle gwirioneddol o gollfarn yn yr achos.



HEFYD
Achos bwyell: Ymddiheuriad swyddogol
31 Maw 11 |  Newyddion
Achos lladd bwyell: Mechnaeth
16 Meh 09 |  Newyddion
Achos lladd bwyell: Tystiolaeth
17 Meh 07 |  Newyddion
Corff: Arestio cyn blismon
18 Ion 03 |  Newyddion
Llofrudd honedig wedi ei ryddhau
04 Hyd 02 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific