British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 10:48 GMT 11:48 UK
Cyhuddo dyn wedi marwolaeth merch 3 oed

Meg Burgess
Bu farw Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008

Bydd cyfarwyddwr cwmni yn ymddangos gerbron llys i wynebu cyhuddiad yn ymwneud â marwolaeth merch dair oed ym Mhrestatyn yn 2008.

Bu farw Meg Burgess pan ddisgynnodd wal ar ei phen yn Ffordd Preswylfa, Prestatyn ar Orffennaf 26, 2008.

Cafodd y wal ei chynllunio gan George Collier, ac yna ei chodi gan ei gwmni, Parcol Developments.

Cafodd ei gyhuddo o ddynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd, ac fe gafodd y cwmni hefyd eu cyhuddo dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch.

Bydd y gwrandawiad cyntaf yn Llys Ynadon Prestatyn ar Hydref 3.

'Esgeulustod dybryd'

Mae'r teulu wedi bod yn galw ar Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) i wneud penderfyniad i erlyn ers tair blynedd, a dywedodd Rosemary Ainslie o'r CPS:

"Rwyf wedi adolygu'r holl dystiolaeth a gasglwyd gan Heddlu Gogledd Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ystod yr ymchwiliad manwl i farwolaeth drasig Meg Burgess yng Ngorffennaf 2008.

"Ar ôl ystyried adroddiadau gan arbenigwyr ar safonau adeiladu a chyngor gan gwnsler, rwyf wedi penderfynu y dylai George Collier gael ei gyhuddo o ddynladdiad oherwydd esgeulustod dybryd am ei rôl wrth gynllunio ac adeiladu'r wal a ddisgynnodd.

Cyhuddiad difrifol

Safle'r ddamwain
Roedd yr ymchwiliad i'r digwyddiad yn un trylwyr

"Fe wnes i hefyd ystyried a ddylid cyhuddo'r cwmni Parcol Developments o ddynladdiad corfforaethol.

"Mae digon o dystiolaeth i gyhuddo'r cwmni o'r drosedd hon, ond ni fyddai er budd y cyhoedd i wneud hynny.

"Mae'r cyhuddiad yn erbyn Mr Collier yn ddigon difrifol i ddelio gyda'r troseddau honedig."

Preifatrwydd

Dywedodd Mark Abbott - y prif swyddog ymchwilio ar ran Heddlu'r Gogledd:

"Mae'r teulu wedi cael gwybod am bob cam o'r ymchwiliad, ac maent wedi cael gwybod am y penderfyniad hwn.

"Mae hwn yn parhau yn gyfnod anodd dros ben i'r teulu, ac maen nhw'n gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu ar hyn o bryd."



HEFYD
Dychwelyd mainc gafodd ei dwyn
08 Ebr 11 |  Newyddion
'Trosedd siomedig a chywilyddus'
30 Maw 11 |  Newyddion
Beirniadu oedi cyn cynnal cwest
22 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad yn parhau
28 Gorff 08 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific