Mewn arwerthiant yn y Babell Lên nos Iau cafodd dros £1,500 ei godi tuag at elusen Achub y Plant. Roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched Y Wawr a'r elusen wedi codi arian ar gyfer ymgyrch
Sodlau'n siarad
. Datblygodd y syniad gwreiddiol i gasglu 150 o esgidiau enwogion Cymru ar gyfer yr arwerthiant i gasglu miloedd o esgidiau cyffredinol aelodau'r cyhoedd. Roedd y ffigwr o 150 gan fod yr Eisteddfod yn 150 oed eleni. Dim ond esgidiau'r enwogion oedd yn yr arwerthiant o dan ofal Heledd Cynwal a Jenny Ogwen, llysgenhadon Achub y Plant. Mae esgidiau aelodau cyffredin Merched y Wawr a'r Clybiau Gwawr wedi bod ar werth yn stondin Achub y Plant drwy'r wythnos. Erbyn dydd Mercher roedd dros £3,500 wedi ei gasglu yno yn unig. Stori arbennig Roedd Eurgain Haf o Achub y Plant Cymru yn falch iawn o'r arwerthiant ac o'r arian sydd wedi ei gasglu hyd yma. "Mae hi wedi bod yn wych. "Roedd yr arwerthiant yn ffantastig gyda digon o hwyl ac mae'r stondin wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnos."
Heledd Cynwal a Jenny Ogwen oedd yn gwerthu'r esgidiau
|
Roedd gan sawl pâr stori arbennig yn ymwneud â'r Eisteddfod gan gynnwys y rhai aeth am y pris mwya. Llywydd Merched y Wawr, Mererid Jones, wnaeth brynu'r pâr esgidiau'r cynllunydd gemwaith Suzie Horan am £90. Dyma oedd yr esgidiau y gwisgodd Suzie i gyflwyno'r Goron wnaeth hi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd yn 2010. "Dwi wrth fy modd gyda'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos, "Mae 'na gymaint o sylw wedi bod i'r ymgyrch ac mae'r esgidiau wedi mynd yn wych. "Roedd Heledd Cynwal yn wych fel yr arwerthwr gan werthu 88 pâr mewn awr. "Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle i wisgo'r esgidiau, maen nhw'n mor esmwyth ac fe fyddan nhw'n edrych yn wych efo ffrog dda." Dywedodd Suzie Horan ei bod yn falch iawn bod yr esgidiau yn mynd i gael cartref da. "Mae'r elusen yn un arbennig iawn ac rwy'n falch o allu helpu'r ymgyrch."
|