British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 05:39 GMT 06:39 UK
Remploy: Streic 48 awr yn y Rhondda

Remploy (cyffredinol)
Mae 72 o swyddi yn Y Porth dan fygythiad

Mae gweithwyr anabl yn y Rhondda yn cynnal streic 48 awr wrth i Llywodraeth y Deyrnas Unedig cynnal ymgynghoriad yngl?n â dyfodol ffatrïoedd Remploy ym Mhrydain.

Mae 72 o swyddi yn Y Porth dan fygythiad yn ogystal â swyddi mewn wyth canolfan Remploy ledled Cymru.

Ar hyn o bryd mae 54 ffatri Remploy ym Mhrydain sy'n cynnig cyflogaeth gysgodol a diogel i bobl anabl.

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried adroddiad sy'n awgrymu y gallai gweithwyr ganfod gwaith yn y farchnad rydd.

Byddai cau'r ffatri yn drychinebus i'r ardal
Jason Seldon

Crëwyd ffatrïoedd Remploy yn dilyn yr Ail Ryfel Byd i gynnig cyflogaeth gysgodol i bobl gydag anabledd.

Dywedodd Jason Seldon, sy'n gweithio i Remploy yn Y Porth ac sy'n aelod o undeb y GMB, y byddai cau'r ffatri yn "drychinebus" i'r ardal.

Ailgylchu

Ychwanegodd: "Mae'r brotest yn dechrau am hanner dydd ond megis dechrau yw'r brotest hon.

"Rydyn ni wedi sefydlu pwyllgor ac rydyn ni'n ystyried cynnal digwyddiadau eraill gan gynnwys gorymdaith."

Yn ôl Mr Seldon, mae'r ffatri yn Y Porth yn ailgylchu hen gyfrifiaduron.

"Does dim llawer o swyddi yn y Rhondda ac mae'r rhan fwyaf o'r rheini mewn archfarchnadoedd," meddai Mr Seldon.

"Byddai cau'r ffatri yn drychinebus i'r ardal."

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud yngl?n â dyfodol Remploy.

Ychwanegodd: "Dywedon ni y bydden ni'n ymgynghori yngl?n ag argymhellion Liz Sayce a dyna beth rydyn ni'n ei wneud.

"Mae adolygiad Sayce yn ymwneud â gwario arian mewn modd gwahanol nid ei dorri."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific