Fe fydd yr aelodau newydd gaiff eu hurddo yn mynd i'r gwahanol wisgoedd ar sail eu harbeniged
Gall newidiadau creiddiol ddigwydd ymhlith Gorsedd y Beirdd ar ôl cyfarfod cyffredinol ar y Maes. Os bydd Llys yr Eisteddfod yn cytuno i'r newidiadau, dim ond enillwyr y prif gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd fydd yn cael eu dyrchafu i'r wisg wen. Fe fydd yr aelodau newydd gaiff eu hurddo yn mynd i'r gwahanol wisgoedd ar sail eu harbenigedd. Cofiadur yr Orsedd, Penri Tanad, sy'n egluro nad oedd hi yn fwriad erioed i'r Orsedd gael unrhyw fath o system hierarchaeth a bod pobl ar draws y degawdau wedi newid pethau.
 |
Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn tueddu i feddwl bod y wisg wen yn bwysicach na'r lliwiau eraill
|
Yn hytrach fe fydd yr Orsedd yn sicrhau bod pawb yn gyfartal. "Roedd 'na sawl cynnig a'r un pwysica oedd y bydd pawb o hyn ymlaen yn ymuno â'r Orsedd ar yr un lefel," meddai'r Cofiadur. Symleiddio "Mae tuedd yn y blynyddoedd diwethaf i gamddehongli, fel bod rhai lliwiau yn bwysicach na'i gilydd. "Dwi'n eistedd ar banel yr urddau, bo hi'n anodd penderfynu pwy sy'n mynd i'r gwyrdd a pwy sy'n mynd i'r gwyn, pwy sy'n mynd i'r ofydd a'r derwydd. Mae'n fympwyol bron, yn dibynnu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddweud gan bobl.... "Trio symleiddio pethau ydi'r nod."
Dywedodd bod rhai sy'n cael eu hanrhydeddu yn cael hwnnw am eu harbenigedd ac y byddai'r lliwiau yn adlewyrchu'r arbenigedd hwnnw. "Cysoni, ie, ond mynd yn bellach hefyd fel bod y bobl gyffredin yn gwybod pa faes arbenigedd sydd ganddyn nhw. "Dwi'n meddwl ein bod ni i gyd yn tueddu i feddwl bod y wisg wen yn bwysicach na'r lliwiau eraill." Mae'n rhaid i Fwrdd yr Orsedd drafod y manylion ond Llys yr Eisteddfod fydd yn gorfod rhoi sêl bendith a newid y cyfansoddiad. Ddim digon pell Dywedodd y Cofiadur ei fod yn gobeithio y bydd y newidiadau yn digwydd o fewn y flwyddyn. "Un newid arall yw bod y gwynion bob tro yn eistedd ar flaen y seremoni ac ar flaen yr orymdaith," meddai. "Ond rydym wedi penderfynu y byddai hynny yn newid, fe fydd y lliwiau yn eu tro ar flaen yr orymdaith ac ar flaen y seremonïau. "Dwi'n falch iawn bod pawb bron iawn yn unfrydol, ac wedi pwysleisio am y newid pwysica i gyd, bod pawb yn gyfartal, ac mae cydraddoldeb o fewn Gorsedd y Beirdd y peth pwysica." Ond dywedodd un o aelodau'r Orsedd, Adrian Morgan, fod ganddo rywfaint o amheuaeth ac yn credu nad yw'r cynsail yn mynd yn ddigon pell. "Fel rhan o'r cynllun fe fydd yr aelodau sydd eisoes yn yr Orsedd yn cael aros yn eu gwisgoedd, i fi, doedd hynny ddim yn mynd yn ddigon pell. "Fe fydd y wisg wen yn y dychymyg yn parhau i fod yn uwch." Dywedodd iddo gynnig y byddai'n syniad i'r rhai sydd ddim wedi ennill y prif wobrau gau'r bwlch o'u gwirfodd a mynd i'r gwisgoedd cyfatebol. "Doedd hyn ddim wrth fodd pawb. "Mae'n debyg bod pobl am barhau i fod yn eu gwisgoedd ac i nifer, gan gynnwys y rhai oedd yn y cyfarfod, mae'r wisg wen yn dal i fod uwch. "Mae'r cynsail ar gyfer cydraddoldeb wedi ei osod ond mae gen i bryderon y bydd rhaid parhau am beth amser eto cyn gwireddu'r uchelgais yn llawn."
|