British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 12 Awst 2011, 05:36 GMT 06:36 UK
Cofio streic pan laddwyd dau yn Llanelli

Cafodd John John (chwith) a Leonard Worsell eu saethu'n farw gan filwyr
Cafodd John John (chwith) a Leonard Worsell eu saethu'n farw gan filwyr

Bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i nodi 100 mlynedd ers streic rheilffordd pan fu farw dau ddyn.

Mae grŵp Streic Rheilffyrdd Llanelli 1911 wedi trefnu wythnos rhwng Awst 12 ac Awst 20 i gofio'r digwyddiad.

Ymysg y digwyddiadau y mae gorymdaith a rali goffa ddydd Sadwrn Awst 20.

Y noson honno cynhelir sioe gerdd wedi ei seilio ar ddigwydddiadau terfysg Llanelli yn 1911.

Ar Awst 19, 1911, saethodd milwyr Leonard Worsell, 19 oed, a John John, gweithiwr tun 21 oed, yn farw.

Roedd gweithwyr rheilffordd Llanelli ac yn nhrefi a dinasoedd gwledydd Prydain wedi mynd ar streic oherwydd cyflogau.

Saethu

Fe ymgasglodd cannoedd ger gorsaf y dref er mwyn rhwystro unrhyw drenau rhag mynd heibio.

Ond pan lwyddodd trên i basio, rhedodd y dorf ar ei ôl a dechreuodd y milwyr saethu.

Mae rhaid i ni gofio mai Ynadon Heddwch Llanelli benderfynodd galw am y fyddin
John Edwards

Dywedodd yr hanesydd, John Edwards, sydd wedi cyhoeddi cyfrol am yr helynt, 1911 Remembrance of a Riot: "Pan aeth y newyddion ar led am y saethu, roedd cyfarfod mawr yn digwydd yn y dref.

"Aeth pawb i'r stesion a chwalu ffenestri ac ati ac yn y nos, roedd llawer o ladrata.

"Roedd y Fyddin yn sownd yn y stesion a'r heddlu tu mewn hefyd."

Bydd Keith Davies, AC Llanelli a Nia Griffith, AS y dref, yn cymryd rhan yn y rali yn ogystal â Bob Crow, ysgrifennydd cyffredinol undeb gweithwyr y rheilffyrdd, yr RMT.

Bydd digwyddiadau'r wythnos yn dechrau gyda pherfformiad gan Goleg Sir Gâr yn Neuadd Dref Llanelli ar nos Wener Awst 12.

"Penderfynwyd trefnu'r digwyddiadau i nodi 100 mlwyddiant ers y streic am fod y streic a'r terfysg wedi eu hanghofio," ychwanegodd.

"Mae rhaid i ni gofio mai Ynadon Heddwch Llanelli benderfynodd galw am y fyddin.

"Pe na bai'r milwyr wedi dod i Lanelli ni fyddai'r terfysg wedi digwydd."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific