British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 05:56 GMT 06:56 UK
Nyrsio: Adnoddau dysgu drwy'r Gymraeg

Nyrsis
Bydd yr adnoddau dwyieithog ar gyfer myfyrwyr Nyrsio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru

Mae adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio yn cael eu lansio'n swyddogol ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

Mae'r cynllun eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau'r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.

Wedi derbyn cefnogaeth a nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu menter, bu tîm o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn arwain cynllun i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer eu myfyrwyr nyrsio.

Y nod yw iddynt dderbyn hyfforddiant arbennig mewn nyrsio pobol ag Anableddau Dysgu, a hynny drwy'r Gymraeg.

Mae tystiolaeth annibynnol yn dangos fod y gallu i ymarfer yn broffesiynol yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y claf
Dr Dafydd Trystan

Yn ogystal, bydd y deunyddiau dysgu'n cyfrannu at y nod o sicrhau bod pobol efo anableddau dysgu yn derbyn yr un safon gofal iechyd â gweddill y gymdeithas, rhywbeth a nodwyd nad yw'n digwydd ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.

Y tro cyntaf

Dywedodd Ruth Wyn Williams, Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, a fu'n arwain y Project a dderbyniodd £1,000: "Mae disgwyl i bob myfyriwr sy'n graddio fod wedi magu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o faes nyrsio anabledd dysgu.

"Rydym hefyd yn ymwybodol o'r angen i ddarparu staff nyrsio proffesiynol i ymarfer mewn sefyllfa ddwyieithog."

Bydd yr adnoddau dwyieithog ar gael nid yn unig i hyfforddi myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd ar gyfer myfyrwyr Nyrsio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.

Bydd hyn yn safoni'r ddarpariaeth drwy Gymru yn y maes hwn a'i chynnig yn Gymraeg am y tro cyntaf.

Bydd yr adnoddau hefyd ar gael ar gyfer unrhyw staff sy'n gweithio ym maes gofal pobol efo anableddau dysgu ac sy'n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu'n gwneud hynny eisoes.

Dywedodd Dr Dafydd Trystan o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Rwy'n falch iawn fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cefnogi datblygiad adnoddau ym maes Nyrsio.

"Mae tystiolaeth annibynnol yn dangos fod y gallu i ymarfer yn broffesiynol yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y claf, ac felly mae'n bwysig iawn fod y cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio astudio yn Gymraeg yn ehangu'n sylweddol iawn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific