British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 15:34 GMT 16:34 UK
Tair cadair i seremoni'r Cadeirio

Cadair Eisteddfod 1912
Syr TH Parry-Williams wnaeth ennill Cadair 1912

Roedd tair Cadair Eisteddfod ar y llwyfan yn ystod seremoni'r Cadeirio yn Wrecsam, a thair Cadair Wrecsam.

Yn ogystal â'r Gadair gafodd ei dylunio a dyluniwyd gan Dilwyn Jones ar gyfer yr Eisteddfod eleni roedd cadeiriau dwy Eisteddfod arall a gafodd eu cynnal yn Wrecsam ar y llwyfan hefyd.

Cafodd y ddwy Gadair ychwanegol eu hennill yn 1912 a 1977.

Mae Cadair 1912 fel arfer yn cael ei chadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Ond mae yn ôl yn Wrecsam ar hyn o bryd.

Cadair Eisteddfod 1977
Un o'r beirniaid eleni, Donald Evans, enillodd y Gadair yn 1977

Enillwyd y Gadair gan Syr TH Parry-Williams a dyma'r flwyddyn iddo ennill y dwbl, sef y Gadair a'r Goron yn yr un flwyddyn.

Y drydedd Gadair i fod ar y llwyfan eleni fydd Cadair 1977.

Donald Evans enillodd hon gan gyflawni'r dwbl hefyd.

Donald Evans oedd un o dri beirniad cystadleuaeth y Gadair eleni.

Mae pob cadair yn adlewyrchu steil y cyfnod ac mae 'na olwg wahanol iawn ar bob un.

Mae Cadair arall a enillwyd yn Wrecsam i'w gweld yn Llyfrgell y Dref ar hyn o bryd.

Dyma'r Gadair Ddu Eisteddfodol cyntaf a gafodd ei hennill gan Thomas Jones (Taliesin o Eifion) yn 1876.

Bu farw'r bardd ddiwrnod ar ôl iddo anfon ei awdl fuddugol i'r gystadleuaeth ac fe orchuddiwyd y gadair â brethyn du yn ystod y seremoni.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific