British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 5 Awst 2011, 07:52 GMT 08:52 UK
Tartan newydd i Goleg Il Wrecsam

Myfyrwyr Coleg Il Wrecsam
Mae Myfyrwyr Coleg Il i'w gweld ar y maes yn gwisgo'r tartan

Mae myfyrwyr Coleg Iâl, Wrecsam, wedi bod yn hysbysebu tartan newydd y coleg drwy ei wisgo ar Faes yr Eisteddfod.

Cafodd y tartan, mewn lliwiau pinc, glas a du'r coleg, eu dylunio gan staff a myfyrwyr Celf a Dylunio'r coleg.

Syniad pennaeth y coleg, Paul Croke, oedd creu'r tartan.

"Cafodd o'r syniad er mwyn dod â'r gwledydd Celtaidd at ei gilydd," meddai Marcus Thomas, darlithydd mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Iâl.

"Mae gan Yr Alban a'r Iwerddon eu tartan eu hun felly roedden ni'n meddwl ei bod hi'n amser cael un Gymraeg hefyd."

Gwehyddwyd y tartan gan y Cambrian Woollen Mill yn Llanwrtyd.

Yn ogystal â chiltiau mae teis, carthenni ac ati wedi eu gwneud o'r tartan.

Lansiwyd y tartan yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae Llysgenhadon Myfyrwyr o'r coleg i'w gweld ar hyd y Maes yn ei wisgo.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific