British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 17:28 GMT 18:28 UK
Neville Evans yn ennill y fedal Wyddoniaeth

Neville Evans
Mae Neville Evans wedi ceisio hybu gwyddoniaeth yng Nghymru

Neville Evans yw enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni.

Mae Mr Evans, sy'n hanu o Radyr yng Nghaerdydd, wedi gweithio'n galed er mwyn ceisio codi statws gwyddoniaeth yng Nghymru.

Mae hefyd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â gwyddonwyr Cymraeg.

Mae Mr Evans wedi llwyddo hybu'r sector wyddonol yn yr eisteddfod dros y blynyddoedd.

Esblygiad

Bu'n aelod o Banel Sefydlog yr adran Wyddoniaeth a Thechnoleg a Chadeirydd yr Is-Bwyllgor lleol yng Nghaerdydd yn 2008.

"Eleni rydyn ni'n dathlu canmlwyddiant genedigaeth E. G. Bowen o Fforestfach oedd un o'r tri arloesodd y system Radar," dywedodd Mr Evans

"Mae pawb yn cofio Charles Darwin ond 'sgrifennodd ef ei bapur cyntaf oll am esblygiad ar y cyd gydag Alfred Russel Wallace o Sir Fynwy.

"Mae enghreifftiau lu fel yna."

Cynhyrchodd Mr Evans gyfres o bosteri lliwgar y gellid eu defnyddio mewn ysgolion i gofnodi cyfraniad gwyddonwyr Cymru.

Mae'r posteri i'w gweld yn y pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ystod yr eisteddfod.

Mae Mr Evans yn meddwl bod mwy o waith i'w wneud i hybu gwyddoniaeth yng Nghymru.

"Mae'n fy nhristau nad yw papurau a chylchgronau yn y Gymraeg yn cynnwys erthyglau gwyddonol yn rheolaidd," meddai Mr Evans.

"Fe garwn i fod papurau newydd yn cynnwys erthyglau gwyddonol yn gyson fel bod pobl yn gallu deall bod trafod gwyddoniaeth yn rhywbeth normal.

"Mae mudiadau fel Merched y Wawr yn dweud nad ydyn nhw'n cael sgyrsiau am wyddoniaeth.

"Felly, byddwn i'n hoffi petai pob mudiad yn cynnwys o leiaf un sgwrs am wyddoniaeth yn ystod y flwyddyn."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific