British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 16:14 GMT 17:14 UK
Carwyn Jones: 'Pa mor bwysig yw'r Brifwyl'

Carwyn Jones
Angen i'r Wyl barhau i dyfu, yn l Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru ar y Maes wedi dweud ei bod yn bwysig sicrhau ei bod yn parhau i fod yn Brifwyl genedlaethol Gymraeg Cymru.

Dywedodd Carwyn Jones, sy wedi bod ar y Maes am ddau ddiwrnod, ei fod yn falch fod bod cymaint o bethau i'w wneud.

"Mae'r Eisteddfod yn llwyddiannus iawn yn denu pobol ddi-Gymraeg yr ardal leol a'r ardal ehangach," meddai.

"Caiff pobl â diddordeb weld bod yr Eisteddfod yn rhan o'u hetifeddiaeth er eu bod nhw'n hanesyddol mor agos at y ffin.

"Mae'n dangos bod modd ehangu apêl yr Eisteddfod yn yr ardal."

Ond wrth gyfeirio at gynlluniau ehangu fe wnaeth gydnabod nad oedd yn gyfnod hawdd yn ariannol.

'Heriau'

"Mae hyn yn rhywbeth mae pawb yn ei wynebu.

"Er bod heriau yn y dyfodol rhaid cwrdd â phob sialens a sicrhau bod y Brifwyl yn dal i dyfu yn y blynyddoedd i ddod.

"Dwi'n meddwl bod yr Eisteddfod ar y trywydd cywir ac yn apelio llawer iawn mwy at y di-Gymraeg ac at y Cymry Cymraeg hynny nad yw o bosib yn ymddiddori yn y byd llenyddol.

"Mae'r ffaith fod cymaint yn dod yma o gefndir di-Gymraeg yn dangos bod y Brifwyl yn un wir genedlaethol.

'Pwysig'

"Mae'n bwysig mai Cymraeg yw iaith yr Eisteddfod ond ei bod hi'n cael ei hystyried gan bawb yn brif ŵyl genedlaethol."

Dywedodd fod trafod â'r Eisteddfod yn bwysig er mwyn sicrhau na fyddai'r sefyllfa ariannol yn y dyfodol yn amharu'n ormodol ar gynlluniau.

"Mae'n bwysig trafod pob sialens gyda'r swyddogion.

"Dwi'n gobeithio na fydd angen arian ychwanegol ond rhaid sicrhau, er mwyn bod yn gynaliadwy, fod 'na gynlluniau mewn llaw lle nad oes angen gofyn am arian."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific