Menna Machreth yn annerch y cefnogwyr cyn yr orymdaith
Mae hyd at 100 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith ar Faes Eisteddfod Genedlaethol wedi clywed galwadau am ddiogelu S4C a darlledu yn y Gymraeg. Oherwydd y bygythiadau i'r sianel fe ddywedon nhw ei bod hi'n amser i'r gwleidyddion sicrhau bod S4C newydd. Yn annerch y rali roedd Menna Machreth, llefarydd darlledu'r gymdeithas, Llywydd Plaid Cymru, Jill Evans, yr AS Llafur Susan Elan Jones, Meic Birtwistle o Undeb y Newyddiadurwyr a'r cerddor Ceri Cunnigton. "Ers i'r llywodraeth gyhoeddi cynlluniau i gwtogi ar eu grant i'r unig sianel deledu Gymraeg mae degau o fudiadau, arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru ac Archesgob Cymru Barry Morgan wedi datgan eu gwrthwynebiad," meddai Ms Machreth. 'Gwneud nid dweud' "Cafodd cyd-cynllun y BBC a'r Llywodraeth ei feirniadu gan y Pwyllgor Materion Cymreig a'r Pwyllgor Diwylliant yn San Steffan, ac ym mis Mawrth eleni cyflwynodd ymgyrchwyr ddeiseb a lofnodwyd gan 13,000 o bobl yn erbyn y cwtogiadau. "Mae grym pobl yn ymgyrchu wedi golygu bod yr ymgyrch wedi symud agenda Llywodraeth San Steffan i ddiddymu S4C i'n sefyllfa bresennol, nesáu at ddadwneud ei chynlluniau'n llwyr.
Fe wnaeth y cefnogwyr orymdeithio tuag at babell Llywodraeth y Cynulliad
|
O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y BBC yn rhannol o'r drwydded deledu. Ym mis Mehefin fe ddywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud "ar fyrder". Mae'r sianel yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb. Yn y cyfamser, mae'r trafodaethau rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn parhau ynglŷn â sut y gellid cydweithio. "Mae pawb yng Nghymru eisiau gweld gwireddu S4C newydd, dim mwy o'r hen gelwydd oddi wrth y Torïaid na neb arall sy'n mynnu bod llai na hynny'n dderbyniol," meddai Ms Machreth. "Rydym am alw ar wleidyddion i 'wneud nid dweud' a phleidleisio i dynnu S4C allan o'r Mesur Cyrff Cyhoeddus." Roedd gorymdaith o babell Cymdeithas yr Iaith i stondin Llywodraeth Cymru. "Mae llais unedig pobl Cymru wedi dweud eu bod nhw yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth ac mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gynnig arweiniad ar y pwnc hynod bwysig hwn a mynnu bod y cyfryngau yn cael eu datganoli i Gymru," meddai Ms Machreth. "Rhaid i'r BBC yn Llundain sylweddoli bod eu bwriadau i dorri gwasanaethau yn mynd i grebachu'r cyfryngau yng Nghymru ac mae angen i S4C fod yn barod i wrando a diwygio os yw am adennill hyder pobl yn ogystal â chamu ymlaen i'r oes ddigidol." Cyn y rali roedd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud mai barn Llywodraeth y Cynulliad a phob plaid yn y Cynulliad oedd y dylai S4C aros yn annibynnol a bod 'na ddigon o arian ar gael i'r sianel gynnig gwasanaeth llawn i bobl Cymru. 'Heriau enfawr' "Mae 'na bryderon hefyd am ddyfodol BBC Cymru yn Saesneg, pryder mai dim ond un rhaglen newyddion y dydd fydd 'na a dim byd ar faterion cyfoes. "Ac mae hyn yn annerbyniol i bobl Cymru." Mae BBC Cymru wedi dweud nad oes penderfyniadau terfynol eto. "Mae 'na heriau enfawr i'r wasg hefyd wrth i rai papurau ddiflannu," meddai Mr Jones. "Fe fydd byd y cyfryngau yn newid yng Nghymru yn sylfaenol yn ystod y pum mlynedd nesaf ac mae'n bwysig bod 'na ddigon o wasanaeth ar gael i bobl yng Nghymru.
Rhai o'r cefnogwyr yn gwrando ar yr areithiau
|
"Dwi wedi cyfarfod â Jeremy Hunt ac wedi codi'r pwyntiau gydag e." Dywedodd y byddai angen efallai yn yr hydref ailgyflwyno'r dadleuon. "Mae'n bwysig na fyddwn ni mewn sefyllfa lle mae S4C yn cael ei chynnig i Lywodraeth Cymru heb yr arian. "Does dim pwrpas cael cyfrifoldebau am ddarlledu heb yr arian. "Yn gynta, mae'n bwysig cadw annibyniaeth S4C ac, yn ail, sicrhau dyfodol cyllidol S4C."
|