British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 14:32 GMT 15:32 UK
Buddugwyr yn ymarfer o bell

Meilir Jones a Jessica Robinson
Mae 150 milltir rhwng cartref Meilir Jones a chartref Jessica Robinson

Mae dau fyfyriwr, enillwyr y canu deuawd yn yr Eisteddfod, wedi ymarfer drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf.

Roedd hi'n amhosib i Meilir Jones, 19 oed, a Jessica Robinson, 20, deithio'n gyson rhwng cartref Meilir yn Llangefni, Ynys Môn, a chartre' Jessica yng Nghlunderwen, Sir Benfro.

Fe geisiodd y ddau ymarfer dros y ffôn am gyfnod cyn troi at dechnoleg Skype sy'n caniatáu i bobl sgwrsio a gwylio ei gilydd dros y we.

Er ei fod yn help, doedd y sefyllfa ddim yn hawdd bob tro.

Dywedodd Jessica: "Weithiau roedd 'oedi' ar y lein ac roeddwn i'n gorffen bar o flaen Meilir."

'Ddim yn barod'

Fe wnaeth y ddau gyfarfod yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd lle mae'r ddau yn astudio canu ac opera.

Cafodd y darn yr oedd y ddau am ei ganu yn yr Eisteddfod ei gyfansoddi gan eu hyfforddwr ar gyfer y gystadleuaeth i rai dan 25 oed.

Dywedodd Jessica: "Doedd y darn ddim yn barod tan fis Mehefin.

"Roedd rhaid i ni gyflwyno'n cais erbyn Awst 1 ac er mwyn cyrraedd y Genedlaethol roedd rhaid i ni ennill dwy Eisteddfod leol.

"Roedd un yn agos i gartre' Meilir a'r llall yn agos at 'y nghartre i.

"Yn ystod y tymor coleg doedd dim problem ond am ein bod ni'n byw mor bell oddi wrth ein gilydd, mae ymarfer ers hynny wedi bod yn broblem.

"Diolch byth am Skype - rydyn ni wrth ein boddau."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific