British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 12:12 GMT 13:12 UK
Cyn arwr Morgannwg wedi marw yn 89

Allan Watkins
Roedd Allan Watkins yn seren i Forgannwg a Lloegr

Bu farw un o arwyr amryddawn criced Morgannwg a Lloegr, Allan Watkins, yn 89 oed.

Roedd wedi bod yn wael am gyfnod byr.

Enillodd 15 cap i Loegr rhwng 1948 a 1952 ac fe gafodd ei gap cyntaf yn erbyn Awstralia yng ngêm olaf Sir Don Bradman i Awstralia.

Watkins oedd y cricedwr cyntaf o Forgannwg i sgorio 100 neu fwy i Loegr pan sgoriodd 111 yn erbyn De Affrica yn 1949.

Roedd yn chwarae i Forgannwg rhwng 1939 ac 1962 ac yn ystod y cyfnod fe sgoriodd 17,419 o rediadau a chipio 774 o wicedi mewn 407 o gemau.

Bu farw yn Kidderminster ddydd Mercher ac fe dalodd Clwb Criced Morgannwg deyrnged iddo a dweud ei fod yn "chwaraewr amryddawn egniol a chymeriad llon."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific