British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 11:18 GMT 12:18 UK
'Creu cyfleoedd i brentisiaid'

Coleg Menai

Mae Coleg Menai wedi lansio cwmni newydd fydd yn cynnig cyfleoedd i brentisiaid sicrhau swyddi.

Nod y cwmni - Cwmni Prentis Menai - yw lleoli prentisiaid gyda chwmnïau blaenllaw o dan gytundeb tra'n cynnig cefnogaeth ychwanegol i'r cyflogwr a'r prentis.

Ymhlith y cwmnïau sy'n rhan o'r cynllun mae cwmni Caws Glanbia, Roberts Port Dinorwig, Magnox a REHAU.

Dywedodd trefnwyr y cynllun y byddai'n helpu'r diwydiant peirianneg yn y gogledd-orllewin oherwydd y byddai'n symlach a chost-effeithlon i fusnesau gyflogi prentisiaid ar adeg economaidd anodd.

'Cefnogaeth aruthrol'

Mae Cyfarwyddwr Linc Menai, Lesley Thomas, wedi dweud: "Rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi 30 o brentisiaethau newydd drwy'r cynllun newydd dyfeisgar yma.

"Mae'r cynllun yn golygu cefnogaeth aruthrol i brentisiaid gyda'r cyfle i gael eu lleoli gyda chyflogwyr er mwyn cael y sgiliau penodol sydd eu hangen ar gyfer eu gyrfa.

"Yn y pen draw fe fydd yn darparu cyfleoedd hyfforddiant sy'n bwysig i'r economi yn y gogledd-orllewin."

Mae Coleg Menai wedi cael cefnogaeth ariannol ar gyfer y cynllun gan Horizon, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn.

'Rhwyd'

Dywedodd llefarydd ar ran Caws Glanbia: "Gall cyflogi prentisiaid llawn amser yn y cyfnod ansicr yma fod yn faich sylweddol.

"Bydd y cynllun yn sicrhau y gall prentisiaid weithio i gyflogwr fel ni ond hefyd mi fydd yn rhwyd ddiogelwch i'r cyflogwr a'r gweithiwr drwy ganiatáu iddyn nhw orffen y brentisiaeth rywle arall pe bai rhaid."

Cwmnïau eraill sy'n rhan o'r cynllun yw International Safety Components, Môn Maintenance, DMM, Ffaun a Marco Cable Management.



HEFYD
Helpu'r ifanc i aros mewn addysg
26 Gorff 11 |  Newyddion
Cynllun 'arloesol' i hyfforddi cogyddion
31 Mai 11 |  Newyddion
Hwb o £8m i academi hwylio
13 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific