British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 06:34 GMT 07:34 UK
Y diwaith yn gorymdeithio

Protestwyr ar yr orymdaith
Bydd yr orymdaith yn gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn

Mae protestwyr ifanc yn cynnal gorymdaith dri diwrnod yn galw am fwy o swyddi, hyfforddiant ac addysg.

Bydd rali yn dechrau'r digwyddiad ym Merthyr Tudful ddydd Iau cyn symud i Bontypridd a gorffen yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd Merthyr ei ddewis fel man cychwyn gan y trefnwyr gan i'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, awgrymu y dylai pobl ddi-waith yno "fynd ar y bws" i ddod o hyd i waith.

Roedd cyn arweinydd y Torïaid wedi dweud fod pobl yr ardal yn rhy ynysig ac y dylent chwilio am waith yng Nghaerdydd.

Mynnodd fod rhai o bobl yr ardal ddim yn ymwybodol y gallent gyrraedd Caerdydd mewn awr ar y bws.

'Sefyllfa ddifrifol'

Dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru sefyll yn erbyn llywodraeth Con-Dem San Steffan a gwireddu eu gwreiddiau sosialaidd
Jaime Davies

Cafodd yr orymdaith ei threfnu gan aelodau grwp Youth Fight For Jobs, ac fe fydd yn cael ei chefnogi gan rhai undebau llafur ac aelodau'r blaid Sosialaidd.

Bydd 16 o bobl ifanc yn gnewyllyn i'r orymdaith 24 milltir fydd yn dechrau gyda rali ar bob rhan ohoni.

Dywedodd un trefnydd, Jaime Davies - cynorthwyydd gwerthiant rhan amser 21 oed o Gaerffili - fod y sefyllfa o safbwynt gwaith i bobl Merthyr a'r ardal yn ddifrifol.

Dywedodd ei fod yn credu mai mater i Lywodraeth Cymru yn ogystal â San Steffan yw newid polisi, ond roedd hefyd yn credu fod sylwadau Mr Duncan Smith yn "atgas oherwydd mae'n awgrymu fod pobl ddi-waith yn y cymoedd yn rhy ddiog i weithio.

"Mae pobl am weithio er mwyn darparu i'w teuluoedd yn y dyfodol," ychwanegodd.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bryd i Lywodraeth Cymru sefyll yn erbyn llywodraeth Con-Dem San Steffan a gwireddu eu gwreiddiau sosialaidd."

Cyfleoedd

Iain Duncan Smith
Roedd sylwadau Iain Duncan Smith wedi gwylltio nifer yn ardal Merthyr

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am gyflwyno ystod o gynlluniau i ateb problem diweithdra ymysg yr ifanc.

Dywedodd llefarydd: "Yn wahanol i lywodraeth San Steffan sydd wedi cau'r gronfa swyddi, rydym wedi ymrwymo i wella cyfleoedd i bobl ifanc sydd ddim ym myd addysg, gwaith na hyfforddiant yng Nghymru.

"Yn Ebrill 2012, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cronfa swyddi Cymreig.

"Bydd yn creu 4,000 o gyfleoedd i bobl ifanc di-waith rhwng 16-24 oed yng Nghymru dros gyfnod o chwe mis.

"Rydym hefyd yn creu mwy o gyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc yng Nghymru."

'Personol'

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan:

"Rydym yn gwybod fod pobl yng Nghymru am gael y cyfle i weithio ac mae'r llywodraeth yn benderfynol o'u cynorthwyo i wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd yna iddyn nhw wireddu eu huchelgais.

"Y Rhaglen Waith yw'r cynllun dychwelyd i'r gwaith mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd gan gynnig y gefnogaeth bersonol y maen nhw ei angen ac y mae cyflogwyr yn chwilio amdano."



HEFYD
'Siom' oherwydd cau canolfan gwaith
20 Gorff 11 |  Newyddion
Diweithdra wedi gostwng
13 Gorff 11 |  Newyddion
Mwy o blant Cymru mewn tlodi
07 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific