British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 19:10 GMT 20:10 UK
Gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C

Yr wyth a fu'n cystadlu ar cariad@iaith 2011
Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cyfres S4C cariad@iaith:love4language pan fu wyth o wynebau cyfarwydd yn dysgu Cymraeg am wythnos

Cyhoeddodd S4C wasanaeth newydd i ddysgwyr Cymraeg mewn datganiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam Ddydd Mercher.

Bwriad y sianel yw cynnig deunydd ar deledu yn wythnosol ar brynhawn Sul yn ogystal â gwefan benodol ar gyfer dysgwyr o fis Mawrth 2012 ymlaen.

Dywedodd Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr S4C, "Mae gwaith ymchwil y sianel yn dangos fod y gynulleidfa yn dyheu am ehangu'r gwasanaeth presennol i ddysgwyr.

"Mae dysgwyr yn garfan bwysig o'n cynulleidfa. Mi fyddwn yn rhoi pwyslais newydd ar gynnig gwasanaeth gwell i'r rheini sy'n dysgu Cymraeg.

"Dydyn ni ddim yn bwriadu dyblygu nag ail greu gweithgareddau sydd eisoes yn cael eu cyflawni gan y Mentrau a'r Canolfannau sy'n darparu deunydd proffesiynol a chyflawn ar gyfer dysgwyr. Yr hyn y gallwn ni ei wneud ydi cynnig deunydd addas i'r gynulleidfa darged drwy rym ein cynnwys.

"Mi fydd cynnwys aml-blatfform yn cael ei deilwra i bwrpas ac yn cynnig adloniant a symbyliad i ddatblygiad y dysgwr unigol.

"Drwy sefydlu partneriaethau ym maes dysgu Cymraeg, mi fydd modd creu llwybr clir i ddysgwyr fydd yn golygu y byddan nhw'n gallu mwynhau cynnwys S4C yn ei gyfanrwydd maes o law."

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn cyfres S4C cariad@iaith:love4language pan fu wyth o wynebau cyfarwydd yn dysgu Cymraeg am wythnos yng nghanolfan fforest, Cilgerran, Sir Benfro.

Mae pecynnau dechreuol i ddysgwyr ar gael o adeilad S4C ar faes yr Eisteddfod yn Wrecsam yn cynnwys CD a llyfryn geirfa fel rhan o'r gyfres, a enillwyd gan yr actores Melanie Walters.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


HEFYD
Actores yn fuddugol am ddysgu iaith
16 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific