British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 06:49 GMT 07:49 UK
'Mwy o statws i'r ddrama'

Cefin Roberts
Mae Cefin Roberts yn credu y dylai'r Orsedd anrhydeddu enillwyr y Fedal Ddrama

Mae Cefin Roberts, un o gyn-enillwyr a chyn-feirniaid cystadleuaeth Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol, yn galw am i'r Panel Drama drafod y seremoni eto.

Wrth gydnabod y byddai'n anodd gofyn i'r Orsedd fod yn bresennol bob diwrnod, mae'n credu y dylid ystyried cael yr Orsedd i anrhydeddu enillwyr y Fedal Ddrama yn ystod seremonïau sy'n bodoli ar hyn o bryd.

Roedd 'na gyfnod pan nad oedd y seremoni'n cael ei llwyfannu yn y Pafiliwn o gwbl.

Ond mae hi nôl ar y prif lwyfan ers sawl blwyddyn.

Er hynny, mae'n cwestiynu a ydi hi'n cael digon o sylw gan y cyfryngau a'r Eisteddfod ei hun.

Urddas

Tybed fedr rhywun ystyried bod yr enillwyr yma'n cael eu hanrhydeddu gan yr Orsedd yn ystod y seremonïau sy'n bodoli ar hyn o bryd?
Cefin Roberts

Dywedodd Mr Roberts bod 'na ymdrech lew wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diweddar i roi dipyn mwy o urddas i'r prif ddramodydd.

"O leia' mae'n braf gweld y seremoni yna ar y prif lwyfan...

"A ydi hi'n cael digon o sylw ganddoch chi'r cyfryngau ar Eisteddfod ei hun sy'n gwestiwn arall.

"O bosib bod o'n anodd gofyn i'r Orsedd bresenoli'u hunain bob diwrnod, ond tybed fedr rhywun ystyried bod yr enillwyr yma'n cael eu hanrhydeddu gan yr Orsedd yn ystod y seremonïau sy'n bodoli ar hyn o bryd?

"Mae 'na ffyrdd o anrhydeddu dipyn bach yn well, ac fel person theatr dwi'n teimlo efallai ei bod hi'n cael ei rhoi mewn rhyw gongl ar hyn o bryd gennym ni."

Mae'r enillydd yn cael ei urddo i'r Orsedd a'r sail ei lwyddiant.

"'Swn i'n licio meddwl bod y Panel Drama am ei drafod o unwaith eto, achos dwi'n meddwl bod 'na nifer o weithwyr theatr yn teimlo efallai mai dyna pam mae 'na lai o gystadlu, nad oes 'na ddim gymaint o sylw'n cael i roi i'r fedal yma.

'Statws'

Mae Post Cyntaf BBC Cymru hefyd wedi siarad â Catrin Jones Hughes, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Fach, Llangefni, sy'n galw am "wir anrhydedd".

Mae hi'n credu y byddai hynny'n rhoi statws i ddrama yn genedlaethol, ac y dylid rhoi sylw i ddramodwyr er mwyn ennyn dramodwyr eto yn y dyfodol.

"Os ydi bobl yn gweiddi allan i ni roi gwell statws a gwell safon i ddrama, pam 'da ni ddim yn cael seremoni go iawn efo'r Orsedd ac yn y blaen?

"Gwir anrhydedd, dyna sydd isho, er mwyn rhoi'r statws i ddrama yn genedlaethol.

"Mae gynnon ni'r Theatr Genedlaethol; os felly, mae isho rhoi sylw i ddramodwyr, er mwyn ennyn dramodwyr eto yn y dyfodol."

Ymateb

Wrth ymateb dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts fod y mater yn un "cymhleth" gan nad yw sgript fuddugol y fedal ddrama bob tro'n gynnyrch gorffenedig.

Mae'n credu mai un ateb posib fyddai anrhydeddu'r enillydd wedi i waith pellach gael ei wneud ar y sgript gan gyfarwyddwr a chwmni proffesiynol.

Os fyddai'r gwaith wedyn yn cael ei lwyfannu, yna efallai byddai modd rhoi anrhydedd bellach.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific