British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 08:26 GMT 09:26 UK
Dathlu 40 mlynedd ar faes y Brifwyl

Deri Tomos, Garry Nicholas a Guto Roberts
Deri Tomos, Garry Nicholas a Guto Roberts a fu'n siarad yn y dathliad

Mae Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod yn dathlu 40 mlynedd ar y Maes.

Mae tua 26,000 o bobl yn mynychu'r pafiliwn ar gyfartaledd dros wythnos yr eisteddfod.

Cynhaliwyd arddangosfa Wyddoniaeth a Thechnoleg gyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1971.

Dros y blynyddoedd mae'r arddangosfa wedi datblygu a thyfu llawer.

Cafwyd seremoni i nodi'r achlysur yn y pafiliwn gyda nifer o siaradwyr ddydd Iau.

Yn eu plith yr oedd Garry Nicholas, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod.

Ffefryn

"Mae'r pafiliwn yn bwysig iawn achos mae'r dathliad yma yn un o ddathliadau mwya' gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr iaith Gymraeg," meddai.

Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae 26,000 o bobl yn ymweld 'r bafiliwn gwyddoniaeth yn ystod yr wyl

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, mai dyma "un o'r ffefrynnau mawr ar y Maes".

"Mae'n gyfle i'n hymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, sy'n wahanol iawn i'r syniad traddodiadol o'r hyn a geir yn yr Eisteddfod."

Un arall oedd yn siarad yn y dathliad oedd Yr Athro Deri Tomos, Athro Biocemeg Prifysgol Bangor.

"Mae'r digwyddiad yma wedi byw drwy'r chwyldro poblogeiddio Gwyddoniaeth dros y deugain mlynedd diwetha'," meddai.

Yno hefyd yr oedd Guto Roberts, cyn-gadeirydd canolog Gwyddoniaeth yr Eisteddfod.

Siaradodd o am hanes y pafiliwn gwyddoniaeth ar hyd y blynyddoedd a'i atgofion gan iddo fynychu'r un gynta' erioed ym 1971.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific