British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 08:15 GMT 09:15 UK
App teithio newydd wedi ei lansio

Arwydd
Dylai'r ap teithio helpu bobl i ddod o hyd i faes yr eisteddfod

Mae Traveline Cymru wedi lansio ap teithio yn yr Eisteddfod yn Wrecsam.

Bydd yr ap dwyieithog yn rhoi mynediad i'r wybodaeth ddiweddaraf am gludiant cyhoeddus i deithwyr tra eu bod ar y ffordd.

Bydd yr app yn galluogi pobl i gynllunio eu teithiau, canfod arosfannau bysiau, lleoli safleoedd parcio a chael mynediad i fanylion cyswllt cwmnïau teithio, ymysg wybodaeth arall.

Lansiwyd yr app gan lysgennad Traveline Cymru, Iolo Williams.

"Pan fyddwch chi allan rydych chi angen gwybodaeth deithio wrth law, felly mae'r app hwn yn syniad gwych," meddai.

Dywedodd bod yr Eisteddfod yn lle delfrydol i lansio'r app gan fod pobl yn cyrraedd yno o dros Gymru gyfan.

"Gobeithio y bydd yr app hwn yn helpu llawer o bobl i gyrraedd adref yn gyflym ac yn ddiogel."

Dywedodd Jo Foxhall, rheolwr marchnata Traveline Cymru, bod yr holl wybodaeth sydd ar eu gwefan ar yr app, mewn fformat syml a hawdd ei ddefnyddio.

"Mae yna apps teithio eraill ar gael, ond cyn belled ag y gwyddom, hwn yw'r unig un sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific