Roedd Dorothy Jones yn siarad gyda Dylan Jones gyda Mark Jones (ch) ac Aled Roberts (dd) yn gwrando
Ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, fe gyhoeddodd un o gynghorwyr Wrecsam gynllun i sefydlu canolfan Gymraeg yn y dref.
Roedd y Cynghorydd Mark Jones yn siarad ar raglen Taro'r Post ar Radio Cymru, ac yn ymateb i drafodaeth am sefyllfa'r Gymraeg yn y dref.
Roedd Dorothy Jones o Gerrigydrudion wedi bod yn mynegi pryder am y sefyllfa.
"Roedd ffrind i mi wedi mynd i dorri'i gwallt yn y dref a gofyn yn y siop am yr Eisteddfod," meddai.
"Doedd gan y ferch ddim syniad be oedd hi'n siarad!
"Mae hynny yn y dre' yn Wrecsam yn rhoi braw i chi."
Wrth ymateb i gwestiwn gan y cyflwynydd Dylan Jones, dywedodd Mrs Jones nad oedd hi'n ystyried y ferch yn y siop trin gwallt yn Gymraes.
'Gobeithiol'
Er ei fod yn cyfadde' fod her o'i flaen, roedd Aelod Cynulliad Gogledd Cymru a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, Aled Roberts, yn obeithiol.
"Petai chi'n mynd yn ôl 50 mlynedd dyw'r ganran o siaradwyr Cymraeg ddim wedi newid llawer heblaw am ardaloedd fel Rhos sydd wedi Seisnigeiddio - dwi'n cyfadde' hynny.
"Ond mae'r sefyllfa yn llawer mwy gobeithiol nag oedd o yn '77 (y tro diwethaf i'r Eisteddfod ymweld â Wrecsam).
"Mae dros 10% o'n plant ni yn cael eu haddysg yn y Gymraeg, ond yr her i ni yw cynnal y Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
"Dyna'r realiti i nifer fawr o ardaloedd yng Nghymru."
Apelio
Yna daeth y Cynghorydd Mark Jones o Gyngor Wrecsam i son am fenter gydweithredol newydd i sefydlu canolfan Gymraeg newydd yn Wrecsam.
"Mae 12,000 o siaradwyr Cymraeg yn Wrecsam, a llawer mwy yn dysgu a chefnogi'r iaith," meddai.
"Mae angen normaleiddio'r iaith fel eu bod nhw'n gallu mynd i dafarn neu gaffi a siarad yr iaith yn naturiol a dyna yw bwriad hwn.
"Canolfan barhaol fydd yma ar ôl yr Eisteddfod yw hon, a gobeithio yn mynd i helpu gyda'r job sydd angen ei 'neud yma."
Ychwanegodd fod y fenter yn gobeithio prynu tafarn y Seven Stars ar Ffordd Caer yn y dref ar gyfer ei throi'n ganolfan, ac fe lansiodd apêl i godi'r £200,000 fydd angen i sicrhau'r eiddo.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.