British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 10:59 GMT 11:59 UK
Gwerthu'r Cae Ras yn Wrecsam

Y Cae Ras
Deellir y bydd y clwb yn newid dwylo'n fuan

Daeth cadarnhad ddydd Mercher fod Prifysgol Glyndŵr wedi cytuno i brynu stadiwm pêl-droed Wrecsam ynghyd a maes ymarfer y clwb yng Ngresffordd.

Dywedodd y brifysgol fod y pryniant wedi ei wneud er mwyn diogelu dyfodol stadiwm y Cae Ras fel canolfan chwaraeon i Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.

Mae'r BBC ar ddeall y bydd y cytundeb yn arwain at Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam yn prynu'r clwb pêl-droed, gan ddiogelu dyfodol hwnnw yn y broses.

'Datblygiad'

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, yr Athro Michael Stott:

"Bwriad y brifysgol drwy brynu'r ddau adnodd yw y bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn medru parhau i'w defnyddio, ac fe allai'r un peth fod yn wir am dîm rygbi 13 y Crusaders.

"Yn ogystal, bwriad y brifysgol yw y bydd yr adnoddau hefyd yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr y brifysgol ar gyfer chwaraeon, a gan bobl Wrecsam a gogledd-ddwyrain Cymru.

"Cafodd y pryniant ei wneud yng nghyd-destun datblygiad parhaus y brifysgol mewn addysg uwch yn ymwneud a chwaraeon er budd myfyrwyr a'r gymuned ehangach."

Cefnogwyr

Mae dyfodol Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi bod yn y fantol ers misoedd lawer.

Fe ddaeth yn amlwg wythnos yn ôl nad yw'r chwaraewyr wedi cael eu talu yn ddiweddar, a dywedodd y perchnogion presennol, Geoff Moss ac Ian Roberts, nad oedd ganddyn nhw fwy o arian i'w roi i'r clwb.

Mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal ers tro rhwng y perchnogion ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam er mwyn ceisio cyrraedd cytundeb i drosglwyddo'r clwb i ddwylo'r cefnogwyr.

Deellir fod perchnogaeth y cae a'r maes ymarfer - a'r arian ddaw o'u gwerthu - yn un o'r meini tramgwydd yn y trafodaethau hynny.

'Cam pwysig'

Dywedodd Richard Green, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam:

"Mae hwn yn un o'r camau pwysig tuag at barhad pêl-droed yn y Cae Ras.

"Byddwn nawr yn dechrau trafodaethau manwl gyda'r brifysgol ynglŷn â threfniadau i'r clwb pêl-droed fynd ymlaen yn y stadiwm.

"Yn fuan iawn wedi hynny fe fyddwn yn medru cyflwyno ein cynnig terfynol gerbron aelodau'r ymddiriedolaeth."



HEFYD
Clwb: Chwaraewyr heb gyflogau
28 Gorff 11 |  Newyddion
Wrecsam: Savage yn poeni am y dyfodol
28 Gorff 11 |  Newyddion
Clwb: Trafod dwy garfan newydd
27 Gorff 11 |  Newyddion
Dyfodol clwb Wrecsam 'mewn peryg'
14 Gorff 11 |  Newyddion
Tynnu cais i brynu clwb yn l
11 Mai 11 |  Newyddion
Clwb yn llwyddo i dalu 200,000
28 Ebr 11 |  Newyddion
Wrecsam: Cyfarfod brys
18 Ebr 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific